Creu'r bydysawd
Yn ôl credoau Cristnogol, Duw greodd y bydysawd.
Mae dwy stori am sut creodd Duw y bydysawd, ac mae'r rhain yn nechrau llyfr GenesisLlyfr cyntaf yr Hen Destament (y Beibl Hebraeg) sy'n disgrifio tarddiad dynoliaeth a pherthynas pobl â Duw. yn y Beibl. Mae rhai Cristnogion yn meddwl am Genesis 1 a Genesis 2 fel dwy stori gwbl wahanol ag ystyr tebyg. Mae eraill yn gweld y ddwy bennod fel rhan o un stori barhaus.
Crynodeb o Genesis 1:
- yn y dechreuad - Duw yn dechrau'r creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd.
- y diwrnod cyntaf - creu golau
- yr ail ddiwrnod - creu'r awyr
- y trydydd diwrnod - creu tir sych, moroedd, planhigion a choed
- y pedwerydd diwrnod - creu'r Haul, y Lleuad a'r sêr
- y pumed diwrnod - creu creaduriaid sy'n byw yn y môr a chreaduriaid sy'n hedfan
- y chweched diwrnod - creu anifeiliaid sy'n byw ar y tir ac yn olaf bodau dynol, ar ddelwedd o Dduw
- erbyn diwrnod saith, roedd Duw wedi gorffen ei greu a gorffwysodd, sy'n gwneud y seithfed diwrnod yn ddiwrnod sanctaidd arbennig.
Yn Genesis 2, mae rhai pobl yn meddwl bod y stori'n mynd ymlaen i roi mwy o fanylion am greu bodau dynol, sy'n cael eu gweld fel dau unigolyn, sef Adda ac Efa.
Cafodd Adda ei wneud o "lwch y tir" pan anadlodd Duw fywyd i mewn iddo. Cafodd Efa ei chreu o un o asennau Adda i ddarparu cwmni a chymorth i Adda. Roedden nhw'n byw mewn man arbennig o'r enw Gardd Eden. Cafodd y ddau y dasg a'r cyfrifoldeb o ofalu am y lle roedd Duw wedi'i greu iddynt.
Dydy llawer o Gristnogion ddim yn credu bod holl fanylion y stori hon yn wir. Maen nhw'n credu mai Duw oedd yn gyfrifol am ddechrau'r bydysawd – ei fod wedi dechrau pethau a goruchwylio'r broses. Maen nhw hefyd yn gallu dysgu gwersi o'r stori am bwysigrwydd dynol ryw a'r cyfrifoldeb sydd gan ddynol ryw dros weddill y creu.
Byddai'r rhan fwyaf o Gristnogion yn derbyn mai neges ganolog Genesis 1 a 2, boed yn un stori neu ddwy, yw:
- Duw wnaeth bopeth
- gwnaeth Duw bopeth yn dda
- gwnaeth Duw ddynol ryw yn uchafbwynt y creu
Mae Cristnogion ffwndamentalaidd yn credu, gan fod y Beibl yn dod yn uniongyrchol gan Dduw, bod rhaid i bopeth ynddo fod yn hollol wir. Mae unrhyw beth sy'n gwrth-ddweud y Beibl yn anghywir. Felly, i Gristnogion ffwndamentalaidd, dydy damcaniaeth y Glec Fawr ddim yn gywir.