Y corff a’r enaid
Mae Cristnogion yn credu nad y diwedd yw marwolaeth y corff. Ar ôl eu hamser ar y Ddaear, mae Cristnogion yn credu bydd bodau dynol yn cael bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw.
Mae Cristnogion yn credu bod enaid gan bob bod dynol. Maen nhw’n credu bod yr enaid yn rhan anghorfforol o fodau dynol, a bod y rhan hon yn dal i fyw ar ôl i'r corff farw. Mae llawer yn credu mai'r enaid fydd yn byw ymlaen yn y byd a ddaw.
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Y prif wahaniaeth rhwng y corff a’r enaid yw:
- mae'r corff yn meidrolYn gallu marw.
- mae'r enaid yn tragwyddolY cysyniad y bydd rhywbeth yn para am byth.
Bydd Duw yn barnu'r hyn a wnaeth bodau dynol ar y Ddaear, a bydd hyn yn penderfynu beth sy’n digwydd i’r enaid yn y byd a ddaw. Mae’r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bydd bodau dynol yn mynd naill ai i’r NefoeddLle neu gyflwr meddwl, sy'n gysylltiedig â Duw a bywyd ar ôl marwolaeth. neu i UffernMan lle bydd pobl sydd wedi drwgweithredu yn cael eu poenydio a'u cosbi..