Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolCristnogion a'r grêd mewn bywyd ar ôl marwolaeth

Mae safbwynt person am fywyd ar ôl marwolaeth yn sicr o effeithio ar y gwerth sy'n cael ei roi i'r bywyd hwn. Mae credoau Cristnogol am fywyd ar ôl marwolaeth yn seiliedig ar atgyfodiad Iesu Grist.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Pam mae Cristnogion yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth?

Y brif ffynhonnell awdurdod i Gristnogion yw’r .

Mae Cristnogion yn canfod sawl rheswm yn y Beibl i gredu mewn bywyd ar ôl marwolaeth, gan gynnwys:

Bywyd tragwyddol - addawodd Iesu byddai ei ddilynwyr yn cael bywyd tragwyddol.

Dywedodd Iesu wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw.
Ioan 11:25

Bywyd Iesu yn esiampl - anfonodd Duw Iesu i’r Ddaear er mwyn i fodau dynol allu goresgyn marwolaeth a chael bywyd tragwyddol.

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Ioan 3:16

Atgyfodiad y corff - pan gododd Iesu o farw’n fyw fe gododd gyda chorff. Mae Sant Paul yn dysgu yn y Beibl y bydd pobl yn cael eu cyrff fel Iesu:

Felly hefyd y bydd, gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
1 Corinthiaid 15:42-44

Anfarwoldeb yr enaid - dywedodd Iesu wrth y troseddwr a groeshoeliwyd gydag ef y byddai’n mynd yn syth i baradwys.

Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i’th deyrnas.” Atebodd yntau, “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
Luc 23:42-43

Mae Cristnogion yn dehongli dysgeidiaethau’r Beibl ar fywyd ar ôl marwolaeth i olygu bydd bodau dynol yn cael bodolaeth ysbrydol ar ôl marw, yn hytrach nag un gorfforol yn unig.

Mae credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth yn gallu dibynnu ar yr ystyr a’r pwrpas mae’n ei roi i fywydau Cristnogion.

More guides on this topic