Beth mae Cristnogaeth yn ei ddweud am fywyd ar ôl marwolaeth?
Mae credoau Cristnogion am fywyd ar ôl marwolaeth yn seiliedig ar atgyfodiadY gred Gristnogol fod yr Iesu wedi codi o farw'n fyw ar y trydydd dydd wedi'r croeshoeliad. Credinwyr yn codi o farw'n fyw ar Ddydd y Farn mewn bywyd newydd, neu atgyfodedig. Iesu Grist. Mae Cristnogion yn credu bod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu’n rhan o gynllun dwyfol Duw ar gyfer dynol ryw. Trwy ei farwolaeth ar y groes, mae Iesu’n talu iawn am bechod dynol ryw ac yn adfer perthynas y ddynol ryw â Duw. Yr Iawn, neu gymod, yw’r term am hyn.
Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi atgyfodi Iesu o farw dri diwrnod wedi’r croeshoeliad, a’i fod wedi ymddangos i’w ddisgyblion unwaith eto. Mae Cristnogion yn cymryd hyn i olygu mai buddugoliaeth dros bechod a marwolaeth oedd aberth Iesu. Er bod marwolaeth y corff yn dal i ddigwydd, bydd y rhai sy’n credu yng Nghrist ac yn byw bywydau da yn cael bywyd tragwyddol yn y NefoeddLle neu gyflwr meddwl, sy'n gysylltiedig â Duw a bywyd ar ôl marwolaeth..
Nefoedd
Mae'r Nefoedd yn cael ei ddisgrifio fel tragwyddoldeb ym mhresenoldeb Duw.
Y Nefoedd yw’r nod eithaf i bob Cristion er mwyn i’w henaid gael ailymuno â Duw ac uno â Christ.
Yn yr Efengylau, mae Crist yn aml yn disgrifio ac yn dysgu am y Nefoedd drwy ddefnyddio damhegion, fel yr Hedyn Mwstard a’r Perl.
Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu.
Mae Iesu’n dweud eto yn efengyl Ioan na ddylai dynoliaeth boeni ac y dylai gael ffydd. Pe na byddai Nefoedd, yna ni fuasai Crist wedi dysgu amdano.
Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi. Fe wyddoch y ffordd i’r lle’r wyf fi’n mynd.
Uffern
Gan fod Duw wedi rhoi ewyllys ryddY gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes unrhyw beth wedi'i ragordeinio. i fodau dynol, rhaid bod cyfle i bobl droi oddi wrth Dduw a’i wrthod. Dyma sail y syniad o Uffern.
Yn draddodiadol mae Uffern yn cael ei ddarlunio fel tân tragwyddol sy’n arwydd o boen a dioddefaint. Dyma ganlyniad gwrthod derbyn y llawenydd mae Duw eisiau i bobl ei rannu gydag ef.
Y gwrthwyneb i’r Nefoedd yw Uffern, sef tragwyddoldeb yn absenoldeb Duw.
Yn Nameg y Dyn Cyfoethog a Lasarus, mae’r dyn cyfoethog yn disgrifio Uffern fel lle o artaith.
... Bu farw’r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. Yn Nhrigfan y Meirw, ac yntau mewn poen arteithiol…
Purdan
Mae’r Yr Eglwys GatholigY Pab sy'n arwain yr Eglwys Gatholig. Mae'r Eglwys Gatholig yn dysgu bod gan y Pab awdurdod arbennig sy'n deillio o'r Iesu ei hun. yn dysgu bod cyflwr o'r enw Purdan, lle mae pobl yn mynd ar ôl marw. Dyma lle caiff rhai pobl sydd wedi pechu eu puro mewn ‘tân glanhaol’, cyn cael eu derbyn i’r Nefoedd.
Yn wir, mae pawb sy’n marw yng ngras a chyfeillgarwch Duw, ond yn dal heb eu puro’n berffaith, yn sicr o iachawdwriaeth dragwyddol: ond ar ôl marw cânt eu puro, er mwyn sicrhau’r sancteiddrwydd angenrheidiol i gael mynediad i lawenydd y Nefoedd.
Dydy'r rhan fwyaf o eglwysi Cristnogol ddim yn derbyn y syniad o Burdan, gan gredu yn hytrach fod barnedigaeth yn digwydd, ac wedyn y bydd pobl naill ai yn y Nefoedd neu yn Uffern hyd dragwyddoldeb.
Mae’r credoDatganiad sy'n crynhoi credoau crefyddol, ac sy'n aml yn cael ei adrodd wrth addoli. Cristnogol yn dysgu:
Credaf yn atgyfodiad y corff a bywyd tragwyddol.
Does dim eglurhad clir o sut bydd y credo hwn yn gallu cael ei weithredu. Mae rhai Cristnogion yn dweud bydd pawb yn cael eu hatgyfodi ar ddiwedd amser mewn cyflwr corfforol ar Ddaear newydd. Mae eraill yn teimlo mai cyfeiriad sydd yma at y syniad bydd y person cyflawn yn bresennol yn y Nefoedd.