Marwolaeth a’r bywyd tragwyddolDameg y Defaid a’r Geifr

Mae safbwynt person am fywyd ar ôl marwolaeth yn sicr o effeithio ar y gwerth sy'n cael ei roi i'r bywyd hwn. Mae credoau Cristnogol am fywyd ar ôl marwolaeth yn seiliedig ar atgyfodiad Iesu Grist.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Dameg y Defaid a’r Geifr

Mae Dameg y Defaid a’r Geifr i'w weld ym Mathew 25:31-46.

Yn y hon, mae Iesu’n defnyddio esiampl y bugail sy’n gwahanu ei ddefaid oddi wrth ei eifr er mwyn helpu ei ddilynwyr i ddeall sut beth fydd Dydd y Farn.

Mae Iesu’n esbonio bydd pobl yn cael eu gwahanu’n ddau grŵp:

  • bydd y rhai sydd wedi byw bywyd cyfiawn a chredu yn Nuw yn cael eu gosod ar y naill ochr ac yn cael lle yn y Nefoedd
  • bydd y rhai sydd wedi gwrthod credu yn Nuw ac sydd wedi pechu yn eu bywydau yn cael eu gosod ar yr ochr arall ac yn mynd i Uffern

Mae Dameg y Defaid a’r Geifr yn annog Cristnogion i weithredu a helpu pobl sydd mewn angen. Yn y ddameg hon, mae Iesu yn ei gwneud hi'n glir y dylid mynd ati i helpu pobl mewn angen er mwyn haeddu lle yn y Nefoedd. Mae Iesu yn egluro bod helpu person, dim ots beth yw ei statws mewn cymdeithas, yr un fath â helpu Iesu ei hun, ac felly mae hyn yn ddyletswydd ar bob Cristion.

Question

Esbonia gredoau Cristnogol mewn bywyd ar ôl marwolaeth.

More guides on this topic