Sut mae angladdau’n adlewyrchu credoau am y byd a ddaw
Mae amryw o wahanol elfennau i’r gwasanaeth angladdol Cristnogol sy’n adlewyrchu gwahanol gredoau Cristnogol am y byd a ddaw.
Fel arfer, mae gwasanaeth angladdol yn cymryd lle mewn eglwys o dan arweiniad offeiriad, ficer neu weinidog.
Cannwyll
Yn aml bydd cannwyll yn cael ei chynnau yn ystod seremoni angladd Cristnogol. Y rheswm dros hyn yw mai symbol o Iesu fel goleuni’r byd yw'r ganwyll, a bod Iesu wedi achub bodau dynol rhag pechod fel eu bod yn gallu mynd i’r Nefoedd.
Darlleniadau o’r Beibl ac emynau
Bydd darnau o’r Beibl yn cael eu darllen yn ystod gwasanaeth angladd Cristnogol a bydd canu emynau. Pwrpas y darlleniadau a’r emynau hyn yn aml yw er mwyn cynnig cynhaliaeth i deulu’r ymadawedig.
Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant.
Claddu
Yn dilyn y gwasanaeth angladdol, y dewis traddodiadol i Gristnogion yw cael eu claddu. Y rheswm dros hyn yw bod Cristnogion yn arfer credu bod angen i’r corff fod yn gyfan ar gyfer cael ei atgyfodi’n gorfforol. Erbyn heddiw, mae rhai Cristnogion yn dewis cael eu hamlosgi, gan fod llawer yn credu mai dim ond yr enaid sy’n mynd ymlaen i’r byd a ddaw. Pan fydd y corff yn cael ei ollwng i’r ddaear bydd y ficer, yr offeiriad neu’r gweinidog yn aml yn dweud y geiriau “Lludw i’r lludw, pridd i’r pridd”, fel arwydd bod dyn wedi’i greu o’r pridd ac y bydd yn dychwelyd i’r pridd.
Y Ddefod Olaf
Bydd Catholigion yn aml yn ceisio sicrhau eu bod yn cael yr eneiniad olafMae'r eneiniad olaf yn arfer Catholig. Mae teulu a ffrindiau yn aml yn galw ar offeiriad i draddodi'r eneiniad olaf pan fydd person Catholig yn agos at farwolaeth. Mae gweddïau yn cael eu dweud ar ran y person sy'n marw, ac mae'n gallu gofyn i Dduw am faddeuant i'w bechodau, sydd hefyd yn golygu bod yr offeiriad yn rhoi'r Cymun Bendigaid.. Dyma pryd bydd yr offeiriad yn dod at y sawl sydd ar fin marw, a gweddïo gyda nhw. Bydd pobl yn cael cyfle i gael maddau eu pechodau gan Dduw ychydig cyn marw, fel eu bod yn gallu marw mewn hedd gan wybod bod ganddyn nhw well cyfle o fynd i’r Nefoedd.
