Dinasyddiaeth fyd-eang
Fel stiwardiaid sydd wedi eu creu gan Dduw, nid yw cyfrifoldeb dynolryw wedi ei gyfyngu i'r Ddaear gorfforol, ond i weddill dynolryw hefyd.
Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cyfeirio at weithio fel cymuned i ofalu am y byd. Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu dylai pob bod dynol ei ystyried ei hun yn ddinesydd byd-eang a gweithio fel aelod o dîm i ofalu am y blaned. Gall pawb gymryd camau yn eu bywydau i sicrhau eu bod nhw'n ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, er enghraifft:
- codi sbwriel
- diffodd y golau pan nad oes ei angen
- cerdded os yw'n bosibl, yn lle mynd yn y car
Eto gwnaethost ef (y bod dynol) ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed.
Mae OXFAM yn diffinio dinesydd byd-eang fel rhywun sydd:
- yn ymwybodol o'r byd ehangach ac sydd gyda synnwyr o'i rôl ei hun fel dinesydd byd-eang
- yn parchu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth
- â dealltwriaeth o sut mae'r byd yn gweithio
- yn gwylltio oherwydd anghyfiawnder cymdeithasol
- yn cymryd rhan yn y gymuned ar ystod o lefelau, o'r lefel leol i'r lefel fyd-eang
- yn fodlon gweithredu er mwyn gwneud y byd yn lle mwy cyfartal a chynaliadwy
- yn cynmryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd
Question
Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth ddinasyddion byd-eang?
Mae'r term dinesydd byd-eang yn cyfeirio at y syniad y dylai pob bod dynol weithio fel rhan o gymuned i ofalu am y byd. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud bodau dynol yn stiwardiaid i'r Ddaear, ac felly y dylai pawb ymddwyn fel dinasyddion byd-eang.