Y bydDysgeidiaethau Cristnogol am yr amgylchedd

Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.

Part ofAstudiaethau CrefyddolBywyd a marwolaeth - Uned 1

Dysgeidiaethau Cristnogol am yr amgylchedd

Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bod Duw wedi rhoi cyfrifoldeb arbennig i fodau dynol o fewn y i'w drin, ei warchod a'i ddefnyddio'n ddoeth. Stiwardiaeth yw hyn. Mae'n rhaid i ddynoliaeth weithio o fewn y creu a gofalu amdano:

Cymerodd yr Arglwydd Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.
Genesis 2:15

Mae popeth wedi'i roi i fodau dynol ar gyfer eu hanghenion, sy'n awgrymu y cân nhw ddefnyddio beth bynnag maen nhw ei eisiau o'r creu er mwyn goroesi:

Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.
Genesis 9:3

Fodd bynnag, gan fod y Ddaear yn eiddo i Dduw, rhaid i fodau dynol ei pharchu a'i rhoi'n ôl i Dduw heb ei difetha:

Eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo.
Salm 24:1

Mae'r darnau hyn o'r yn dangos mai'r brif neges yw mai Duw yw'r un sy'n darparu ar gyfer bodau dynol ac y dylai bodau dynol ddangos eu bod nhw'n ddiolchgar drwy ofalu am y pethau mae Duw wedi eu rhoi iddyn nhw.

Mae'r Datganiad Cristnogol ar Natur a gafodd ei lunio yn yn 1986 yn gwneud y pwyntiau canlynol yn glir iawn:

  • Mae gan yr holl greu, gyda bodau dynol a hebddynt, agos sydd wedi'i gwneud felly gan Dduw. Gogoniant Duw sy'n gyfrifol am y creu.
  • Swyddogaeth bodau dynol yw gwarchod popeth sydd wedi'i greu, nid eu cam-drin na'u dinistrio.
  • Gwrthodir pob math o 'r byd a'i adnoddau ac unrhyw greaduriaid. Rhaid i fodau dynol beidio â gwneud dim byd sy'n peri risg o ddifrod i'r byd, gan gynnwys rhyfela niwclear.