Algebra sylfaenolEhangu cromfachau

Mae algebra’n ddefnyddiol iawn yn ein byd modern lle mae mathemateg yn cael ei ddefnyddio’n eang iawn. Mae hyn yn cynnwys ehangu cromfachau, casglu termau ac amnewid mewn fformiwlâu.

Part ofMathemategAlgebra

Ehangu cromfachau

Os bydd gofyn i ti gyfrifo gwerth 3(2 + 4), y dull arferol fyddai enrhifo’r cromfachau’n gyntaf a lluosi’r ateb â 3. Byddai’r cyfrifiad hwn yn rhoi 18 i ti.

Yn lle hyn, gallet luosi’r rhif y tu allan i’r cromfachau â’r ddau rif sydd y tu mewn i’r cromfachau, ac adio’r canlyniadau at ei gilydd. Byddai hyn yn rhoi 3 × 2 + 3 × 4 i ti, sydd hefyd yn rhoi’r canlyniad 18.

Mae’r strategaeth hon yn bwysig iawn pan fydd angen i ni gyfrifo gwerth cromfach sy’n cynnwys llythrennau megis 3(\({a}\) + 2), gan ei bod yn amhosib i ni gyfrifo gwerth y gromfach yn gyntaf. Ni allwn symleiddio \({a}\) + 2.

Drwy ddefnyddio’r ail ddull, fodd bynnag, byddai gennyn ni 3 × \({a}\) + 3 × 2 a gallwn ei ysgrifennu fel 3\({a}\) + 6. Pan fydd gofyn i ti ehangu/lluosi mynegiad algebraidd sy’n cynnwys cromfachau, dyma’r dull y dylet ei ddefnyddio.

Enghraifft

Ehanga 2(3\({y}\) - 4)

Ateb

Y rheol yw y dylet luosi’r rhif y tu allan i’r gromfach â’r ddau rif y tu mewn i’r gromfach ac yna rhaid adio’r canlyniadau at ei gilydd. Mae hyn yn ein gadael gyda (2 × 3\({y}\)) + (2 × -4) = 6\({y}\) – 8.

Question

Ehanga 6(2\({z}\) + 2)

Bydd rhai o’r cwestiynau anoddaf yn gofyn i ti ehangu a symleiddio mynegiad sy’n cynnwys dwy set o gromfachau, megis:

3(\({p}\) + 2) + 2(\({p}\) - 4)

Mae’r dull sy’n cael ei ddefnyddio i ddatrys hwn yn union yr un fath ag o’r blaen. Rydyn ni’n ymdrin â phob cromfach ar wahân, yna’n symleiddio ein hateb cyn belled â phosib.

Ar gyfer y gromfach gyntaf: 3(\({p}\) + 2) = 3\({p}\) + 6

Ar gyfer yr ail gromfach: 2(\({p}\) – 4) = 2\({p}\) – 8

Drwy grwpio termau tebyg cawn: 3\({p}\) + 2\({p}\) + 6 – 8

Drwy symleiddio cawn ein hateb terfynol: 5\({p}\) – 2

Enghraifft

Symleiddia 3(\({i}\) + 4) – 2(\({i}\) –3)

Ateb

Rydyn ni’n defnyddio’n union yr un dull ag o’r blaen ond rhaid i ni fod yn ofalus iawn gyda’r arwyddion, gan gofio bod yr arwydd yn perthyn i’r rhif a ddaw ar ei ôl.

Mae’r gromfach gyntaf yn gymharol hawdd: 3(\({i}\) + 4) = 3\({i}\) + 12

Mae’r ail gromfach yn rhoi: –2(\({i}\) – 3) = (–2 × \({i}\)) + (–2 × -3) = –2\({i}\) + 6

Drwy grwpio termau tebyg gyda’i gilydd: 3\({i}\) – 2\({i}\) + 12 + 6

A thrwy symleiddio cawn: \({i}\) + 18

Question

Symleiddia –3(\({k}\) – 2) + –2(\({k}\) + 4)