Beth yw DNA a sut mae strwythur y moleciwl etifeddol hwn yn gyfrifol am ei swyddogaeth? Mae gwyddonwyr yn defnyddio’u gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol.
Peirianneg genetig yw cymryd genynnau o un organeb a’u gosod i mewn i genom un arall. Gall hyn olygu:
creu cnydau sy’n cynhyrchu eu pryfleiddiad eu hunain, neu sy’n gwrthsefyll chwynladdwyr
rhoi manteision genynnol i gnydau i weddu i’r ardaloedd lle maent yn cael eu tyfu er mwyn sicrhau’r cynnyrch mwyaf posibl
addasu cnydau i gynhyrchu sylweddau penodol, ee fitamin A, neu gnydau cynhyrchu ynni
Dadleuon yn erbyn y dechnoleg
Gallai paill ddianc o gnydau sydd â’u genynnau wedi’u haddasu (GM), a hynny’n arwain at newid cnydau eraill. Yn achos paill sy’n cynnwys gwrthsafiad i chwynladdwr, ofnir y gellid creu ‘arch-chwyn’. Chwyn yw’r rhain sydd wedi’u peillio’n ddamweiniol gan blanhigyn GM sy’n gwrthsefyll chwynladdwr.
Cwmnïau mawr sydd biau rhai cnydau GM, sy’n golygu y gallant reoli’r pris.
Gallai defnyddio cnydau GM arwain at ddibynnu llai ar gnydau o wledydd sy’n datblygu.
Mae ofnau ynghylch sut mae bwyta cnydau GM yn effeithio ar y corff.