Beth yw DNA a sut mae strwythur y moleciwl etifeddol hwn yn gyfrifol am ei swyddogaeth? Mae gwyddonwyr yn defnyddio’u gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol.
Mae gan gelloedd corff dynol 23 pâr o cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy’n codio ar gyfer holl nodweddion organeb. yn y cnewyllyn. O’r rhain, mae 22 pâr yn awtosomau, ac yn rheoli nodweddion, ond mae un pâr yn cario genynnau sy’n pennu rhyw – sef a fydd yr epil yn wryw neu’n fenyw:
mae gan wrywod ddau gromosom rhyw gwahanol, sef XY
mae gan fenywod ddau gromosom X, sef XX
Caryoteipiau dynol yw’r enw ar y diagramau hyn, sy’n dangos y cromosomau wedi’u trefnu’n barau.
Cromosomau o gorff gwryw
Yn y blwch glas gwelir y ddau gromosom rhyw – mae’r rhain yn wahanol feintiau - cromosom X (yr un mawr) ac Y (y cromosom bach).
Cromosomau o gorff benyw
Yn y blwch pinc gwelir y ddau gromosom rhyw – mae’r rhain yr un maint, dau gromosom X mawr.
Diagram genetig
Mae diagram genetig, fel sgwâr Punnett, yn dangos sut y gall alelau gyfuno mewn sygotWy wedi'i ffrwythloni, o ganlyniad i uno dau gamet.. Mae’r diagram isod yn dangos sut yr etifeddir rhyw biolegol.
Alelau’r fam/fenyw – XX
Alelau’r tad/gwryw – XY
Dyma’r ddau gyfuniad posibl:
cromosom X gan y fam a chromosom X gan y tad – yn cynhyrchu merch (ffenoteip benywaidd o’r genoteip XX)
cromosom X gan y fam a chromosom Y gan y tad – yn cynhyrchu mab (ffenoteip gwrywaidd o’r genoteip XY)
Mae cymhareb epil benywaidd yn erbyn gwrywaidd yn 1:1. Ar gyfartaledd, bydd hanner yr epil yn ferched a hanner yn fechgyn. Gellir trosi hyn hefyd yn debygolrwydd o 50% (XX) a 50% (XY).