Sut i lunio sgwariau Punnett
Dilyna'r dull hwn i lunio sgwariau Punnett:
- Penna genoteipiau’r rhieni – cyfuniadau alelau’r gwryw a’r fenyw. Gelli di ddewis defnyddio unrhyw lythyren, ond defnyddia un lle mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y briflythyren a’r llythyren fach, er enghraifft, Aa, Bb, Ee.
- Hollta'r alelau’r ddau deip rhiant a’u nodi yn eich sgwâr Punnett o gwmpas yr ymylon.
- Cyfrifa'r cyfuniadau genetig posibl newydd y tu mewn i’r sgwâr Punnett.
- Defnyddia hyn i ateb y cwestiwn. Gallai fod gofyn i ti roi sylw ar gyfrannedd gwahanol gyfuniadau alelau yn yr epil, cyfrifo cymhareb tebygolrwydd, neu ddim ond pennu ffenoteipiau’r epil.
Enghraifft
Rheolir etifeddiad lliw blew llygod gan un genyn. Mae blew gwyn yn enciliol - a. Mae blew llwyd yn drechol - A. Mae dwy lygoden sy’n heterosygaidd o ran y genyn lliw blew yn paru. Penna'r tebygolrwydd y bydd gan yr epil flew llwyd.
Cam un
Benyw – Aa
Gwryw – Aa
Cam dau
Can tri
Oherwydd bod genoteipiau Aa ac AA ill dau’n rhoi’r ffenoteip blew llwyd, mae’r tebygolrwydd y bydd gan yr epil flew llwyd yn \(\frac{3}{4}\) (neu 75%), ac mae’r tebygolrwydd y bydd gan yr epil flew gwyn yn \(\frac{1}{4}\) (neu 25%).
Rhagor o enghreifftiau o groesiadau genetig
Dyma ragor o enghreifftiau posibl o gyfuniadau un genyn.
Enghraifft un
Aa x AA, lle mae Aa = alelau’r fenyw, ac AA = alelau’r gwryw.
Mae gan hanner yr epil posibl yr un cyfuniad alelau AA (homosygaidd drechol). Mae gan yr hanner arall y cyfuniad Aa (heterosygaidd).
Mae’r cyfrifiad tebygolrwyddI ba raddau mae’n debygol y bydd rhywbeth yn digwydd. ar gyfer yr enghraifft hon yn dangos bod dau allan o bedwar cyfuniad posibl yn creu siawns 50% o gael alelau AA, a siawns 50% o gael alelau Aa.
Mae yma gymhareb 1:1.
Enghraifft dau
Ee x Ee, lle mae Ee = alelau’r fenyw, ac Ee = alelau’r gwryw.
Mae tri gwahanol gyfuniad i’r epil. Mae un yn EE (homosygaidd drechol), dau yn Ee (heterosygaidd) ac un yn ee (homosygaidd enciliol).
Mae cyfrifiadau tebygolrwydd ar gyfer yr enghraifft hon yn dangos bod un allan o bedwar cyfuniad posibl yn creu siawns 25% o gael alelau EE, dau yn creu siawns 50% i’r alelau Ee, ac yn olaf, siawns 25% i’r alelau ee.
Gellir dangos hyn yn syml fel hyn:
Rhaid i’r gwerthoedd tebygolrwydd adio i roi 100% (25 + 50 + 25 = 100)
Gellir crynhoi’r gymhareb fel hyn.
Question
Pennir math blew cŵn gan un genyn â dau alel. Mae’r alel blew syth yn drechol D, ac mae’r alel blew cyrliog yn enciliol d.
Mae dau gi â’r alelau Dd yn bridio.
a. Cwblha'r sgwâr Punnett hwn i ddangos cyfuniadau alelau’r epil posibl a gynhyrchir.
b. Cyfrifa'r tebygolrwydd y bydd gan epil y cyfuniad DD.
c. Noda gymhareb epil blew syth yn erbyn epil blew cyrliog.
a. Dylai’r sgwâr Punnet edrych fel hyn.
b. 25%
c. 3 syth: 1 cyrliog
Question
Haen uwch yn unig
Caiff lliw’r blodau mewn planhigion pys ei etifeddu’n enetig. Mae’r alel gwyn yn enciliol, a’r alel pinc yn drechol. Caiff planhigyn sy’n homosygaidd enciliol ei fridio â phlanhigyn sy’n heterosygaidd.
Os cynhyrchir 48 o hadau, amcangyfrifa faint ohonynt fydd â blodau pinc.
Mae epil sydd yn Aa yn binc, felly mae’r tebygolrwydd y bydd planhigyn yn binc yn \(\frac{1}{2}\) (neu 50%).
48 × (\(\frac{50}{100}\)) = 24 o blanhigion â blodau pinc.