Gwneud croesiad genetig
Croesiadau monocroesryw
Gellir archwilio croesiadau genetig o gyfuniadau un genyn (etifeddiad monocroesryw) a’u dangos gan ddefnyddio sgwâr Punnett. Mae hwn yn dangos y cyfuniadau epil posibl a all gael eu cynhyrchu, ac yn caniatáu ichi gyfrifo tebygolrwyddI ba raddau mae’n debygol y bydd rhywbeth yn digwydd. y gwahanol gyfuniadau hyn.
Enghraifft un
Rheolir taldra planhigion pys gan un genyn sydd â dau alel – tal a byr.
Mae’r alel tal yn drechol ac yn cael ei ddangos fel T.
Mae’r alel byr yn enciliol ac yn cael ei ddangos fel t.
Cwblha'r sgwâr Punnett hwn i ddangos cyfuniadau alelau posibl yr epil a gynhyrchir pan gaiff dau blanhigyn pys eu bridio.
Mae’r rhiant-blanhigyn benywaidd yn dal – TT.
Mae’r rhiant-blanhigyn gwrywaidd yn fyr – tt.
Os nodi di'r cyfuniadau ym mhob blwch, fe weli di mai’r un cyfuniad alelau sydd i bob epil posibl – Tt. Mae hyn yn golygu y bydd pob epil yn yr F1 (y genhedlaeth gyntaf) yn dal.
Os digwydd hunan-ffrwythloniPan mae paill planhigyn yn glanio ar ei stigma ei hun., caiff paill un blodyn ei drosglwyddo i stigma’r un blodyn. Pan ddigwydd hyn, dywedir bod y blodyn yn hunan-beillio, sy’n golygu bod y genoteip F1 yn croesi â’i hun.
Bydd 75 y cant o’r epil yn dal, am eu bod nhw’n cynnwys yr alel trechol. Bydd 25 y cant o’r epil yn fyr, achos mae \(\frac{1}{4}\) o’r genoteipiau’n homosygaidd enciliol, ac felly byddant yn dangos y nodwedd enciliol.
Enghraifft dau
Yn y croesiad genetig hwn, mae’r alelau benywaidd yn Dd a’r alelau gwrywaidd yn dd. Gelwir y croesiad yma’n ol-groesiad.
Mae gan hanner yr epil posibl gyfuniad alelau Dd, ac mae gan yr hanner arall gyfuniad alelau dd.
Cyfuniadau un genyn yw’r enghreifftiau hyn, ond cofia fod y rhan fwyaf o ffenoteipiau wedi’u rheoli gan enynnau lluosog.
Sut i ddefnyddio tebygolrwydd a chymarebau syml
Gelli di fynegi canlyniad croesiad genetig drwy ddefnyddio tebygolrwydd neu gymarebau.
Enghraifft tri
Tebygolrwydd
Mae’r tebygolrwydd mai Aa fydd yr epil yn \(\frac{1}{2}\) (neu 50%). Mae’r tebygolrwydd mai aa fydd yr epil yn \(\frac{1}{2}\) (neu 50%) hefyd.
Cymhareb
Cymhareb Aa i aa yw 1:1.
Mae’n bwysig cofio mai ar hap y crëir y cyfuniadau alelau yn ystod proses ffrwythloni, a dyna pam y defnyddir tebygolrwydd, gan nad oes sicrwydd o ddim. Felly, mae pob un o’r pedwar cyfuniad epil posibl yr un mor debygol o ddigwydd yn ystod pob digwyddiad ffrwythloni.