Strwythur DNA
DNA
Mae moleciwlau DNA yn fawr a chymhleth. Maent yn cario’r cod genetig sy’n pennu nodweddion organeb fyw.
Genynnau
Darn o DNA sy’n codio ar gyfer protein penodol yw genyn. Dyma uned etifeddiadGwybodaeth enetig sy’n pennu nodweddion organeb ac yn cael eu pasio ymlaen o un genhedlaeth i’r llall., a gellir ei gopïo a’i basio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
Cromosomau
Mae cnewyllynMae’r cnewyllyn yn rheoli’r hyn sy’n digwydd y tu mewn i gell. Cromosomau sydd i’w gweld yng nghnewyllyn y rhan fwyaf o gelloedd yw strwythurau. Cnewyll yw lluosog cnewyllyn. y gell yn cynnwys cnewyllynMae’r cnewyllyn yn rheoli’r hyn sy’n digwydd y tu mewn i gell. Cromosomau sydd i’w gweld yng nghnewyllyn y rhan fwyaf o gelloedd yw strwythurau. Cnewyll yw lluosog cnewyllyn.. Edafedd hir o DNA yw’r rhain, pob un wedi’i ffurfio o lawer o enynnau.
Mae’r diagram yn dangos y berthynas rhwng y gell, ei chnewyllyn, y cromosomau yn y cnewyllyn, a’r genynnau.
Fe wnaeth James Watson a Francis Crick ganfod beth oedd strwythur DNAAsid deocsiriboniwcleïg. Y deunydd y tu mewn i gnewyllyn celloedd, sy’n cludo gwybodaeth enetig organebau byw. yn 1953. Trwy ddefnyddio data gan wyddonwyr eraill, fe lwyddon nhw i adeiladu model o DNA. Dangosodd y data pelydr X a ddefnyddiwyd ganddynt fod DNA wedi’i ffurfio o ddau edefyn wedi’u torchi’n helics dwblSiâp moleciwl DNA gyda dwy gainc wedi eu troelli gyda’i gilydd i greu sbiral..


Parau basau
Mae ‘asgwrn cefn’ pob edefyn DNA wedi’i wneud o foleciwlau siwgr a ffosffad am yn ail gyda chemegau pâr rhwng pob edefyn, a elwir yn fasau. Sylwer bod y rhain yn wahanol i’r basau cysylltiedig ag asidau ac alcalïau mewn cemeg. Mae pedwar bas gwahanol mewn DNA:
- thymin, T
- adenin, A
- gwanin, G
- cytosin, C
Ceir bondio cemegol rhwng y ddau edefyn mewn DNA, a’r rheiny wedi’u ffurfio gan barau o fasau. Maent bob amser yn paru mewn ffordd arbennig, sef paru basau cyflenwol:
- mae thymin yn paru gydag adenin (T–A)
- mae gwanin yn paru gyda cytosin (G–C)
Trefn y basau hyn yn y genynnau sy’n pennu trefn yr asidau amino y maent yn codio iddynt. Mae gan bob genyn drefn benodol o fasau yn y DNA, ac mae hyn yn arwain at drefn benodol o asidau amino sy’n creu protein penodol.
Er bod llawer o nodweddion wedi’u rheoli gan enynnau lluosog, rheolir rhai nodweddion gan un genyn, ee blew anifeiliaid, a lliwddallineb coch-gwyrdd mewn bodau dynol. Gall fod gan bob genyn wahanol ffurfiau, a gelwir y rhain yn alelau.
Enghraifft
Mae gan y genyn lliw llygaid alel ar gyfer llygaid glas ac alel ar gyfer llygaid brown. Yn achos unrhyw enyn, gall rhywun fod â dau alel yr un fath neu ddau alel gwahanol.
Cod tripled - Haen uwch yn unig
Caiff trefn pob un o'r asidau amino mewn protein eu pennu gan god o dri bas, sef y cod tripled. Felly bydd gan pob asid amino penodol, god tripled o fasau gwahanol.