Mitosis
Mae cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy’n codio ar gyfer holl nodweddion organeb. yn cario gwybodaeth enetig mewn moleciwl a elwir yn DNAAsid deocsiriboniwcleïg. Y deunydd y tu mewn i gnewyllyn celloedd, sy’n cludo gwybodaeth enetig organebau byw.. Maent i’w cael mewn parau yng nghnewyllyn y gell, ac maent yn drefniant llinol o genynUned sylfaenol o ddefnydd genetig sy'n cael ei etifeddu oddi wrth ein rhieni. Mae'n ddarn o DNA sy'n rheoli rhan o gemeg cell - yn enwedig cynhyrchu protein.. Mae genynnau’n bodoli mewn parau hefyd, ac mae pob genyn yn creu cod sy’n gwneud protein penodol.
Math o gellraniad yw mitosis sy’n sicrhau, pan fydd cell yn rhannu, fod pob cell newydd a gynhyrchir yn cynnwys yr un wybodaeth enetig.
Mae pob cell yn y corff dynol yn cynnwys 46 cromosom. Gellir trefnu’r rhain yn 23 pâr. Mae’r ddau gromosom mewn pâr yn cario’r un mathau o enynnau.
Cellraniad
Bydd celloedd yn rhannu:
- pan fydd organeb yn tyfu
- pan fydd angen i organebau adnewyddu celloedd sydd wedi treulio
- pan fydd angen i organebau drwsio meinwe sydd wedi’i niweidio
Yn ystod y prosesau hyn, aiff y gell drwy fath o gellraniad o’r enw mitosisMath o gellraniad sy’n cynhyrchu epilgelloedd sy’n union yr un fath â’r rhiant..
Mewn mitosis, cynhyrchir dwy gell a elwir yn epilgelloeddPan mae cell yn rhannu, gelwir y celloedd newydd sy’n cael eu creu yn epilgelloedd.. Mae’n hanfodol fod unrhyw epilgelloedd newydd a gynhyrchir yn cynnwys gwybodaeth enetig sy’n union yr un fath ag eiddo’r famgell, a bod nifer y cromosomau’n aros yn gyson.
Canser
Bydd celloedd yn tyfu ac wedyn yn rhannu trwy fitosis dim ond pan fydd arnom angen rhai newydd – un ai wrth i ni dyfu, neu pan fydd angen adnewyddu celloedd sy’n hen neu wedi’u niweidio.
Pan fydd cell yn troi’n canserAfiechyd sy’n cael ei achosi gan gelloedd arferol yn newid ac yn tyfu drwy fitosis yn afreolus. Mae’r tyfiant hwn yn achosi i lwmp, o’r enw tiwmor, gael ei ffurfio., mae’n dechrau tyfu a rhannu’n afreolus. Cynhyrchir celloedd newydd hyd yn oed os nad oes ar y corff eu hangen.
Bydd grŵp o gelloedd canseraidd yn cynhyrchu tyfiant a elwir yn tiwmorLwmp o gelloedd sy’n ffurfio o ganlyniad i gelloedd yn rhannu’n afreolus..
Beth sy’n achosi canser?
carsinogenCemegyn neu gyfrwng sy’n achosi canser. yw’r enw ar gemegau a chyfryngau eraill sy’n gallu achosi canser. Bydd carsinogenau’n achosi canser drwy niweidio DNA sy’n gallu peri i mwtaniadNewid i enyn neu gromosom sy’n digwydd ar hap o gamgymeriad wrth ddyblygu DNA yn ystod cellraniad, neu mae’n gallu cael ei achosi gan belydriad neu gemegion penodol. ddigwydd. Ni fydd un mwtaniad unigol yn achosi canser – mae angen llawer ohonynt. Am y rheswm hwn, rydym yn fwy tebygol o ddatblygu canser wrth i ni heneiddio.
Mae rhai ffactorau genetig sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu rhai canserau. Ffactor risg yw’r term am rywbeth sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd. Mae sawl ffactor risg ar gyfer gwahanol fathau o ganser.
Ffactorau ffordd o fyw
- Firysau a gysylltir â chanser, fel y firws papiloma dynol (HPV), yn cael eu lledaenu o berson i berson drwy gyfathrach rywiol.
- Y carsinogenau cemegol ym mwg sigaréts yn cynyddu’r risg o ganser ar yr ysgyfaint.
- Mae yfed alcohol yn cael ei gysylltu â rhai canserau.
- Derbyn pelydriad uwchfioledPelydriad electromagnetig â lefelau amledd sydd rhwng lefelau amledd golau gweladwy a phelydrau X., a rhan ohono’n belydriad ïoneiddioÏoneiddio yw'r broses o drawsnewid atom neu foleciwl di-wefr yn ronyn wedi'i wefru, drwy ychwanegu neu dynnu electronau., wrth dorheulo neu fod allan yn yr awyr agored, a hynny’n arwain at ddatblygu canser y croen.
- Gall deiet gwael gyda gormod o fraster a halen, yn ogystal â bwyta rhai bwydydd penodol, gynyddu’r risg o ganser.
Ffactorau diwydiannol ac amgylcheddol
- Mae derbyn pelydriad ïoneiddio, fel y pelydriad uwchfioled yng ngolau’r haul, yn cynyddu’r ffactor risg.
- Derbyn carsinogenau cemegol fel y rhai a geir ym mwg sigaréts.