Cellraniad a chelloedd bonynMeiosis

Mae celloedd yn rhannu trwy fitosis er mwyn tyfu ac atgyweirio. Maen nhw'n rhannu drwy feiosis i greu gametau ar gyfer atgenhedlu rhywiol. Mae celloedd bonyn yn gwahaniaethu’n gelloedd arbenigol.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Meiosis

Mae angen dau riant ar gyfer . Yn ystod y broses hon bydd cnewyllyn gwryw yn ymasu â chnewyllyn gamet benyw, gan gynhyrchu cell newydd a elwir yn .

Mewn bodau dynol, mae pob gamet yn cynnwys 23 , hanner y nifer a geir yng nghelloedd eraill y corff. Pan fydd y gametau gwryw a benyw’n ymasu, maent yn troi’n sygot, sydd yn ei dro’n troi’n newydd yn cynnwys y set lawn o 46 cromosom – hanner gan y tad a hanner gan y fam.

Ffrwythloni yw’r term am yr ymasiad gametau yma.

Caiff gametau eu ffurfio trwy fath o gellraniad, sef meiosis. Mewn anifeiliaid, sberm ac wyau yw’r gametau.

Mewn planhigion blodeuol, paill ac wyau yw’r gametau.

Diagram o flodyn gyda labeli ar gyfer Petal, Anther, Briger, Ffilament, Stigma, Ofari, Ofwl, Neithdarle, Sepal

Mewn meiosis:

  • gwneir copïau o’r wybodaeth enetig
  • mae’r gell yn rhannu ddwywaith i ffurfio pedwar gamet, pob un ag un set o gromosomau a elwir yn gelloedd haploid
  • mae pob gamet yn wahanol i’w gilydd yn enetig. Maen nhw'n dangos amrywiad
Diagram o gellraniad: Rhiant-gell, Cromosomau'n rhannu, Cromosomau tebyg yn ffurfio parau, Rhannau o DNA yn cael eu cyfnewid, Parau o gromosomau'n rhannu, Cromosomau rhannu

Cymharu mitosis a meiosis

MitosisMeiosis
Cynhyrchir epilgelloedd â genynnau union yr un fathCynhyrchir epilgelloedd â genynnau sy’n amrywio
Mae set lawn o gromosomau gan yr epilgelloeddHanner set o gromosomau sydd gan yr epilgelloedd
Cynhyrchir dwy epilgellCynhyrchir pedair epilgell
Mae’n digwydd er mwyn tyfu, adnewyddu celloedd sydd wedi treulio, ac atgyweirio celloedd sydd wedi’u niweidioMae’n digwydd er mwyn ffurfio gametau mewn atgenhedlu rhywiol
MitosisCynhyrchir epilgelloedd â genynnau union yr un fath
MeiosisCynhyrchir epilgelloedd â genynnau sy’n amrywio
MitosisMae set lawn o gromosomau gan yr epilgelloedd
MeiosisHanner set o gromosomau sydd gan yr epilgelloedd
MitosisCynhyrchir dwy epilgell
MeiosisCynhyrchir pedair epilgell
MitosisMae’n digwydd er mwyn tyfu, adnewyddu celloedd sydd wedi treulio, ac atgyweirio celloedd sydd wedi’u niweidio
MeiosisMae’n digwydd er mwyn ffurfio gametau mewn atgenhedlu rhywiol