Celloedd bonyn
Celloedd bonyn mewn bodau dynol
Mae embryo yn datblygu o wy a gafodd ei ffrwythloni. Celloedd bonyn yw’r term am gelloedd yng nghamau cyntaf datblygiad embryo. Celloedd yw’r rhain sydd heb brofi gwahaniaethuPan mae cell anarbenigol yn dod yn fath o gell sy’n fwy arbenigol.. Cell heb ei gwahaniaethu yw cell sydd heb droi’n cell arbenigolCell gyda siâp arbennig ar gyfer swyddogaeth arbennig. eto.
Os tynnir celloedd o’r embryo byddant yn gwahaniaethu gan newid i unrhyw fath o gell. Celloedd bonyn embryonig yw’r term am y rhain. Bydd rhai celloedd bonyn yn aros yng nghyrff oedolion fel celloedd bonyn oedolyn.
Mae ychydig o gelloedd bonyn oedolyn i’w cael mewn sawl rhan o’r corff, ee:
- yr ymennydd
- y llygaid
- y gwaed
- y galon
- yr iau/afu
- mêr yr esgyrn
- y croen
- y cyhyrau
Dim ond i fathau celloedd perthynol y gall celloedd bonyn oedolyn newid. Er enghraifft, gall celloedd mêr esgyrn wahaniaethu’n gelloedd gwaed a chelloedd y system imiwnedd, ond nid yn unrhyw fathau eraill o gelloedd.
Defnyddio celloedd bonyn dynol
Gall celloedd bonyn rannu i gynhyrchu celloedd newydd, a gall y rheini ymrannu wedyn yn wahanol fathau o gelloedd. Felly mae ganddynt y potensial i gael eu trawsblannu i gleifion i drin cyflyrau meddygol a chlefydau. Gellid eu defnyddio i adnewyddu celloedd a gafodd eu niweidio neu eu difa, er enghraifft:
- mewn diabetes math 1
- mewn achosion o sglerosis ymledol, a all arwain at barlys
- mewn achosion o anaf i fadruddyn y cefn neu’r ymennydd, sydd wedi arwain at barlys
Gellid defnyddio:
- celloedd bonyn embryonig
- celloedd bonyn oedolyn
Gall celloedd bonyn embryonig wahaniaethu i amrediad ehangach o fathau o gelloedd, ond mae’n anodd cael gafael arnynt. Yr embryo pum diwrnod oed yw’r ffynhonnell orau.
Bydd celloedd bonyn oedolyn yn gwahaniaethu i amrediad llai o fathau o gelloedd. Mae trawsblaniadau mêr esgyrn yn enghraifft o drawsblaniad celloedd bonyn oedolyn. Bydd celloedd mêr esgyrn yn gwahaniaethu’n fathau gwahanol o gelloedd gwaed. Gwneir trawsblaniadau mêr esgyrn:
- mewn achosion o canserAfiechyd sy’n cael ei achosi gan gelloedd arferol yn newid ac yn tyfu drwy fitosis yn afreolus. Mae’r tyfiant hwn yn achosi i lwmp, o’r enw tiwmor, gael ei ffurfio. celloedd gwaed, ee lewcemia a lymffoma
- pan fydd celloedd gwaed wedi’u difa, ee yn ystod triniaeth am ganser
Buddiannau a risgiau cysylltiedig â defnyddio celloedd bonyn mewn meddygaeth
Mae gan gelloedd bonyn botensial mawr, ee ar gyfer trin cleifion â chyflyrau na ellir eu trin ar hyn o bryd, tyfu organau ar gyfer trawsblaniadau, ac ymchwil. Dyma rai o fanteision defnyddio eich celloedd bonyn eich hun:
- dim gwrthodiad
- dim angen canfod rhoddwr
- dim angen gwirio math meinwe
Ond mae cwestiynau clinigol, moesegolYn ymwneud â’r hyn sy’n iawn neu ddim yn iawn, ee mae cwmnïau moesegol fel arfer yn rhai sy’n ymddwyn yn gyfrifol. a chymdeithasol ynglŷn â’u defnyddio. Bydd y cwestiynau hyn yn wahanol ar gyfer tyfu a thrawsblannu celloedd bonyn oedolyn, embryonig, neu wedi’u clonio’n therapiwtig. Byddant yn dibynnu hefyd ar sut y bwriedir defnyddio’r celloedd bonyn – ar gyfer therapi neu ymchwil.
Problemau clinigol
- Does dim gwarant pa mor llwyddiannus fydd y therapïau hyn, er enghraifft, defnyddio celloedd bonyn i adnewyddu celloedd nerfol a gollwyd mewn cleifion clefyd Parkinson.
- Mae’n anodd canfod rhoddwyr celloedd bonyn addas ar hyn o bryd.
- Mae’n anodd cael a storio celloedd bonyn embryonig gan glaf. Byddai’n rhaid casglu’r rhain cyn geni’r person – mae rhai clinigau’n cynnig storio gwaed o’r llinyn bogail pan gaiff rhywun ei eni.
- Gwelwyd mwtaniadau mewn celloedd bonyn a feithrinwyd am sawl cenhedlaeth, a gwelwyd bod rhai celloedd bonyn â mwtaniadau yn ymddwyn fel celloedd canser.
- Gallai celloedd bonyn wedi’u meithrin gael eu halogi gan firysau, a châi’r rheiny eu trosglwyddo i’r claf.
Cwestiynau moesegol
- Un ffynhonnell o gelloedd bonyn embryonig yw embryonau sbâr a gynhyrchwyd wrth ffrwythloni in vitro (IVF).
- Ar gyfer clonio therapiwtigDefnyddio technoleg clonio at ddibenion meddyginiaethol. Un enghraifft fyddai defnyddio DNA unigolyn i glonio un o’i organau er mwyn ei thrawsblannu., a ydyw’n iawn creu embryonau ar gyfer therapi, a’u difa yn y broses?
- Gellid dod i weld embryonau fel nwydd, ac nid fel embryo a allai ddatblygu’n berson.
- Ar ba gam yn ei ddatblygiad y dylid ystyried embryo, a’i drin, fel person?
Cwestiynau cymdeithasol
- Mae’n bwysig addysgu’r cyhoedd am yr hyn y gall celloedd bonyn ei wneud a’r hyn na allant ei wneud.
- A ydyw buddiannau defnyddio celloedd bonyn yn fwy na’r risgiau.
- Clinigau masnachol sy’n gwneud llawer o’r gwaith ymchwil, felly nid yw llwyddiannau honedig yn destun adolygiad gan gydweithwyr.
- Gellid ecsbloetio cleifion a’u cael i dalu am driniaethau costus a rhoi gobaith ffug iddynt am iachâd gan mai dim ond yn eu camau datblygiadol y mae therapïau celloedd bonyn.