Cellraniad a chelloedd bonynCelloedd bonyn mewn planhigion
Mae celloedd yn rhannu trwy fitosis er mwyn tyfu ac atgyweirio. Maen nhw'n rhannu drwy feiosis i greu gametau ar gyfer atgenhedlu rhywiol. Mae celloedd bonyn yn gwahaniaethu’n gelloedd arbenigol.
Mae rhaniad celloedd mewn planhigion yn digwydd mewn rhannau a elwir yn meristemMan penodol lle mae celloedd yn rhannu mewn planhigion, ee blaen gwreiddyn a blaen egin.. Gall celloedd y meristem wahaniaethu i gynhyrchu pob math o gell planhigyn ar unrhyw bryd yn ystod oes y planhigyn.
Mae’r prif feristemau’n agos at flaen yr egin, a blaen y gwreiddyn.
Mewn eginyn sy’n tyfu, caiff celloedd newydd eu cynhyrchu’n barhaus yn agos at y blaen. Wrth i’r celloedd heneiddio, byddant yn symud ymhellach i ffwrdd o’r blaen ac yn gwahaniaethu.