Addoli yn y cartrefTreif

I Iddewon, mae'r cartref yn lle pwysig i addoli ynddo. Mae heriau, manteision ac anfanteision wrth gadw Shabbat, yn ogystal â rheolau bwyd mae'n rhaid i Iddewon lynu atyn nhw yn y cartref.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Treif

Treif yw’r gair am fwydydd sydd wedi’u gwahardd i Iddewon. Mae bwydydd treif yn cynnwys:

  • pysgod heb esgyll neu gen
  • unrhyw fath o bysgod cregyn
  • adar ysglyfaethus ac adar sy’n bwydo ar anifeiliaid eraill
  • anifeiliaid sydd heb garnau hollt
  • anifeiliaid sydd ddim yn cnoi cil
  • anifeiliaid sydd â charnau hollt sydd ddim yn cnoi cil, ee moch
  • anifeiliaid sydd yn cnoi cil ond sydd heb garnau hollt, ee camelod

Cyfuno bwydydd

Yn ogystal ag ystyried pa fwydydd sy’n kosher a treif, rhaid i Iddewon fod yn ofalus hefyd ynghylch pa fwydydd maen nhw’n eu rhoi gyda’i gilydd, gan fod rhai cyfuniadau bwyd wedi’u gwahardd hefyd. Daw’r rheol hon o’r cyfarwyddyd yn Exodus 23:19 sy’n dweud, Paid â berwi myn yn llaeth ei fam.

Mae Iddewon yn dehongli’r dyfyniad hwn i olygu eu bod wedi’u gwahardd rhag bwyta cig a chynnyrch llaeth gyda’i gilydd. Mae hyn yn golygu na ellir bwyta prydau fel lasagne cig neu fyrgyrs caws. Bydd llawer o Iddewon hefyd yn gadael bwlch amser o o leiaf dair awr rhwng bwyta cig a chynnyrch llaeth, os ydyn nhw am fwyta pwdin hufennog ar ôl prif gwrs o gig.

Diagram of a selection of different Kosher and Treif foods.

Parev

Ystyr y term parev yw niwtral, ac mae’n cyfeirio at fwydydd sydd ddim yn gig nac yn gynnyrch llaeth. Mae’n rhoi dewis ehangach o fwyd i Iddewon. Dyma enghreifftiau:

  • llysiau
  • wyau
  • planhigion

Bydd gan wahanol deuluoedd wahanol reolau ynghylch i ba raddau y maen nhw’n cynnal cegin kosher. Gall Iddewon Uniongred ddewis cael llestri, oergelloedd, peiriannau golchi llestri ac weithiau hyd yn oed geginau hollol ar wahân ar gyfer paratoi prydau cig a phrydau cynnyrch llaeth, tra bydd eraill yn bodloni ar sicrhau nad ydynt yn eu bwyta gyda’i gilydd. Gall rhai Iddewon, rhai rhyddfrydol yn bennaf, ddewis peidio â chadw’r rheol hon o gwbl.

Question

Beth yw ystyr y gair kashrut?

Question

Ysgrifennwch y gair Hebraeg cywir – kosher neu treif – i ddisgrifio’r bwydydd canlynol:

  • coctel corgimwch
  • lasagne llysieuol
  • byrger caws a sglodion
  • cyrri cig gafr
  • cig eidion rhost, wedyn tarten afalau a chwstard
  • cyw iâr mewn briwsion gyda thatws rhost a llysiau
  • golwythion cig oen, wedyn pwdin reis