Y synagog
Y synagog yw addoldy’r Iddewon. Bydd Iddewon yn ymgasglu yn y synagog:
- i weddïo fel cymuned
- i astudio
- i ddathlu gwahanol ddefodau newid byd a gwyliau
- i ymgynnull fel cymuned Iddewig
Minyan
Er y gall Iddewon weddïo yn unrhyw le, ac nad oes rhaid iddyn nhw weddïo yn y synagog bob amser, mae llawer o Iddewon yn credu bod gweddïo gydag aelodau eraill o’r gymuned Iddewig yn rhan bwysig o’u ffydd.
Enw’r Iddewon ar eu haddoliad cynulleidfaol yw’r minyanYn y ffydd Iddewig, dyma'r cworwm o ddeg dyn sydd ei angen ar gyfer cynnal gwasanaeth. Mae rhai cymunedau blaengar yn caniatáu menywod yn rhan o'r minyan, ond dydy minyan ddim yn ofynnol bob amser.. Rhaid i o leiaf ddeg dyn Iddewig fod yn bresennol i gyflawni addoliad cyhoeddus. Bydd y rhan fwyaf o Iddewon yn mynd i’r synagog o leiaf unwaith yr wythnos er mwyn gweddïo cymunolGweddïo ynghyd fel cymuned. a gall rhai Iddewon deddfol fynd bob nos.
Man astudio
Bydd llawer o Iddewon yn defnyddio’r synagog hefyd fel man astudio. Bydd Iddewon ifanc yn mynychu gwersi lle cânt ddysgu athrawiaeth grefyddol sylfaenol y ffydd. Bydd Iddewon hŷn yn astudio’r TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud. trwy gydol eu hoes, a bydd gan y rhan fwyaf o synagogau lyfrgell yn llawn o’r testunau cysegredig Iddewig i’w hastudio gan eu dilynwyr.
Dathlu
Defnyddir y synagog hefyd fel man i gynnal amryw defod newid bydAdeg arwyddocaol mewn bywyd, a ddilynir yn aml gan newid mewn ffordd o fyw. a dathliadau Iddewig. Cynhelir seremonïau fel y Bar MitzvahYn llythrennol: mab y gorchymyn. Seremoni Iddewig ar gyfer bachgen 13 mlwydd oed, sy'n nodi ei fod yn dod yn oedolyn sy'n aelod llawn o'r gymuned Iddewig. a phriodasau ac angladdau Iddewig i gyd yn y synagog. Caiff seremonïau eraill eu cynnal yn y synagog hefyd yn ystod adegau gŵyl, fel gwasanaeth y ShabbatSeithfed diwrnod yr wythnos; diwrnod o adnewyddu ysbrydol a gorffwys sy'n cychwyn ar fachlud haul ar y dydd Gwener ac yn dod i ben wrth iddi nosi ar y dydd Sadwrn., sy’n digwydd bob wythnos.
Y gymuned Iddewig
Mae’r synagog yn lle hefyd i gynnal digwyddiadau cymdeithasol a gwahanol weithgareddau. Bydd llawer o synagogau hefyd yn cyflawni swyddogaeth canolfan gymunedol, ac yn cynnal gwahanol bethau. Yn aml bydd amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol yn digwydd bob wythnos.
Question
Disgrifiwch bwysigrwydd y synagog i Iddewon.
Y synagog yw addoldy’r Iddewon. Mae’n lle pwysig i Iddewon gan mai dyma lle y cedwir sgroliau’r Torah. Mae’n bwysig i Iddewon hefyd gan ei fod yn rhywle y gallant fynd i gymryd rhan mewn addoliad cyhoeddus, fel y minyan. Gallant ddefnyddio’r synagog hefyd fel man i astudio’r Torah, dathlu gwyliau crefyddol, fel Hanukkah, a chymdeithasu.