Mannau cysegredigGwahaniaethau mewn traddodiad

Ystyrir y synagog a'r cartref ill dau yn fannau sanctaidd ar gyfer gwahanol fudiadau Iddewiaeth, sef Iddewon Uniongred, Diwygiedig a Rhyddfrydol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Gwahaniaethau mewn traddodiad

O fewn Iddewiaeth mae gwahanol fathau o Iddewon, neu ‘fudiadau’ Iddewig, fel y’u gelwir. Y prif wahaniaethau rhwng y gwahanol fudiadau yw’r modd y maen nhw’n dehongli’r ysgrythurau a’r deddfau yn bennaf. Dyma’ r tri phrif fudiad sydd i’w cael o fewn Iddewiaeth:

  • Uniongred
  • Diwygiedig
  • Rhyddfrydol

Iddewon Uniongred

Iddewon Uniongred yw’r rhai sy’n credu’r Torah air am air ac yn credu mai dyma air uniongyrchol Duw. Fel arfer nhw yw’r Iddewon mwy traddodiadol a bydd eu gwasanaethau yn y synagog yn cael eu cynnal yn yr Hebraeg. Bydd llawer o Iddewon Uniongred yn mynd i’r synagog bob dydd ac yn adrodd gweddïau mewn Hebraeg.

Iddewon Diwygiedig

Mudiad yw Iddewiaeth Ddiwygiedig sy’n ceisio cadw traddodiadau Iddewiaeth ond yn eu diweddaru i weddu i fywyd modern a chyflwr newidiol y byd. Er enghraifft, mae Iddewon Diwygiedig yn credu bod stori’r creu yn llyfr Genesis yn symbolaidd yn hytrach nag yn ddisgrifiad gwirioneddol o’r hyn a ddigwyddodd. Mae hyn yn caniatáu i’r darganfyddiadau gwyddonol modern weithio ochr yn ochr â chredoau crefyddol.

Iddewon Rhyddfrydol

Mae Iddewiaeth Ryddfrydol yn debyg i Iddewiaeth Ddiwygiedig, o ran ei bod yn ceisio cysoni Iddewiaeth a moderniaeth. Mae’n fudiad mwy blaengar nag Iddewiaeth Ddiwygiedig, ac yn credu bod angen diweddaru pob deddf, dysgeidiaeth a chredo yn y byd modern. Er enghraifft, nid ydynt yn credu bod angen ufuddhau i’r deddfau dietegol Iddewig os nad ydynt eisiau gwneud hynny.

Question

Beth yw ystyr uniongred?