Arferion IddewigArferion sy’n dangos credoau am Dduw

Mae gan bob crefydd wahanol arferion sy'n unigryw i'w ffydd a'i chredoau. Bydd Iddewon yn adrodd y Shema, yn dangos parch i Dduw mewn amrywiol ffyrdd, ac yn gwisgo dillad penodol er mwyn mynegi eu hunaniaeth.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Arferion sy’n dangos credoau am Dduw

Adrodd y Shema

Y Shema Yisrael (Deut. 6:4-9, 11:13-21, Num. 15:7-41) yw’r Iddewig fwyaf hynafol sydd i’w chael yn y Torah. Mae’n cadarnhau mai dim ond un Duw sydd. Dywed y Shema fod Duw yn bersonol ac yn mynnu cariad gan Iddewon ym mhob agwedd o’u bodolaeth. Dywed hefyd y dylai Iddewon ddilyn ei orchmynion a chaniatáu i’r cariad hwn gael ei weld.