Gwisgo’r kippah a’r tallith
Cap bach yw’r kippah, neu gap corun, sy’n cael ei wisgo gan Iddewon gwrywaidd fel arwydd o hunaniaeth Iddewig. Mae rhai’n credu mai arwydd o barch at Dduw yw gwisgo gorchudd ar eich pen. Dyma o ble y daeth y traddodiad o wisgo kippah.
Mewn cymunedau Iddewig Uniongred mae’n draddodiad i ddynion wisgo’r kippah bob amser. Ond gall Iddewon Rhyddfrydol a Diwygiedig ddewis gwisgo’r kippah dim ond pan fyddant yn gweddïo, yn darllen y Torah neu’n mynychu’r synagog. Gall rhai menywod o’r mudiadau Rhyddfrydol a Diwygiedig ddewis gwisgo’r kippah ar brydiau hefyd.
Mae’r tallith, neu siôl weddi, yn siôl a wisgir yn draddodiadol gan ddynion Iddewig. Caiff ei gwisgo:
- mewn gwasanaethau gweddi boreol
- mewn gwyliau
- ar y Sabath
Y rheswm dros wisgo’r tallith yw i atgoffa Iddewon am y 613 o orchmynion y mae disgwyl i Iddewon eu dilyn. Cynrychiolir y gorchmynion hyn gan y 613 o daseli, neu tzitzit, o gwmpas ymylon y tallith.
Yn draddodiadol, dynion Iddewig sy’n gwisgo’r tallith, ond mewn rhai cynulleidfaoedd Iddewig rhyddfrydol, mae menywod yn cael dewis ei wisgo hefyd.