Nodweddion mewnol synagog
Bydd pob synagogAdeilad i Iddewon weddïo, astudio ac ymgynnull ynddo yn gyhoeddus. ychydig yn wahanol o ran dyluniad, gan ddibynnu ar leoliad y synagog a pha bryd y cafodd ei adeiladu. Er hyn, bydd llawer o nodweddion yn gyffredin i bob synagog, sy’n cynrychioli dysgeidiaeth a chredoau’r grefydd.
Aron Hakodesh (yr arch)
Yr Aron Hakodesh, neu’r arch, yw’r lle pwysicaf ym mhob synagog. Yr Aron Hakodesh yw’r man lle cedwir sgrôl y TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud.. Fel arfer mae’r arch wedi’i gwneud o bren ac iddi nodweddion cwpwrdd, ac yn aml bydd llen neu ddrws arni. Mae rhai arferion cysylltiedig â’r arch, gan gynnwys symbol y drws neu len wedi’i agor neu ar gau. Mae hyn yn arwydd o bwysigrwydd y weddi sy’n cael ei hadrodd. Os yw drws yr arch yn agored, mae’n arwydd bod y weddi’n bwysig. Caiff y drws ei agor yn aml ar gyfer rhai gweddïau penodol yn ystod Yom KippurYom Kippur yw Dydd y Cymod, pan fydd Iddewon yn gwneud ymdrech arbennig i gyflawni'r teshuva. Dyma un diwrnod sy'n cael ei neilltuo er mwyn gwneud iawn am bechodau'r flwyddyn flaenorol. a Rosh HashanahGŵyl y Flwyddyn Newydd Iddewig. Mae'n ddathliad o greu'r byd. Y gred yw bydd Duw yn barnu pob person ar yr adeg hon..
Ner Tamid
Lleoliad y Ner Tamid yw pen blaen y synagog uwchben yr arch. Lamp olew fyddai hon yn draddodiadol ond erbyn heddiw mae’n lamp drydan yn aml er mwyn cyfleuster. Caiff ei chadw ynghyn bob amser ac ni ddylid gadael iddi ddiffodd. Ystyr Ner Tamid yw goleuni tragwyddol. Mae’n symbol o’r menorahCanhwyllbren saith cangen a oedd yn cael ei gynnau'n ddyddiol yn y Deml ac sy'n rhan o bob synagog. a gafodd ei ddefnyddio yn yr hen Deml yn Jerusalem.
Y bimah
Mae'r gair bimah yn cyfeirio at y llwyfan yn y synagog lle mae'r Torah yn cael ei darllen yn uchel a lle mae rhai o'r gwasanaethau yn cael eu cynnal. Yn y rhan fwyaf o synagogau mae’r bimah yn y tu blaen, yn agos at yr arch a Ner Tamid. Pan dynnir y Torah o’r arch, bydd y gynulleidfa’n sefyll. Wedyn caiff y Torah ei gludo draw at y bimah a’i osod ar y ddesg ddarllen. Bydd y rabbiAthro ac arweinydd crefyddol gyda'r awdurdod i wneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â chyfraith Iddewig. Rabbi yw prif swyddog crefyddol synagog, ac yn aml (ond nid bob amser) bydd yn arwain yr addoliad ac yn cynnal defodau a seremonïau. yn defnyddio yad wrth ddarllen y Torah. Ffon bwyntio yw yad, sy’n cael ei defnyddio i leihau unrhyw gyffwrdd ar y Torah.
Y Deg Gorchymyn
Y Deg Gorchymyn yw'r deg rheol rhoddodd Duw i Moses ar Fynydd Sinai. Maen nhw'n rhan o'r 613 o orchmynion a roddwyd i’r Iddewon gan Dduw. Mae sôn am y Deg Gorchymyn ddwy waith yn y Torah a dyma sylfeini deddfau’r Iddewon. Caiff y Deg Gorchymyn eu darllen yn uchel yn y synagog dair gwaith y flwyddyn, yn ogystal ag yn ystod gŵyl ShavuotGŵyl Iddewig sy'n rhoi diolch am y Torah, gan gofio'r adeg pan roddodd Duw y Deg Gorchymyn i Moses..
Eistedd yn y synagog
Yn draddodiadol ni fyddai Iddewiaeth yn caniatáu i ddynion a menywod eistedd gyda’i gilydd yn y synagog, oherwydd y gred fod hyn yn tynnu eu sylw. Mae hyn yn dal yn wir heddiw i Iddew UniongredIddew sy'n byw yn unol â'r Torah a chyfraith rabinaidd (halakhah) ac sydd ddim ond yn derbyn newidiadau sy'n dderbyniol yn ôl y Torah.. Ond mae dynion a menywod yn cael eistedd gyda’i gilydd yn synagogau’r Iddewon Diwygiedig.
Question
Beth yw ystyr y term Ner Tamid?
Ystyr Ner Tamid yw goleuni tragwyddol ac mae’n lamp sydd wedi’i chynnau ger yr arch yn y synagog, er mwyn atgoffa Iddewon am bresenoldeb Duw.