Beth yw Shabbat?
ShabbatSeithfed diwrnod yr wythnos; diwrnod o adnewyddu ysbrydol a gorffwys sy'n cychwyn ar fachlud haul ar y dydd Gwener ac yn dod i ben wrth iddi nosi ar y dydd Sadwrn. yw’r diwrnod addoli pwysicaf yn y cartref. Caiff ei ddathlu ar y seithfed dydd ymhob wythnos o fachlud haul nos Wener hyd fachlud nos Sadwrn er mwyn cadw’r gorchymynCyfraith neu gyfarwyddyd gan Dduw. i gofio’r dydd Saboth, i’w gadw’n gysegredig.
Cofia’r dydd Saboth, i’w gadw’n gysegredig. Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith, ond y mae’r seithfed dydd yn Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th anifail, na’r estron sydd o fewn dy byrth. Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr a’r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd. Am hynny, bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth a’i gysegru.