Y gegin kosher
Kashrut
Daw’r gair kashrut o’r llythrennau Hebraeg Kaf-Shin-Reish, sef iawn, priodol neu gywir. Mae kashrut yn cyfeirio at y set o ddeddfau bwyd a diet Iddewig sydd i’w cael yn y Torah, yn bennaf yn Lefiticus 11:1-23.
Bydd Iddewon Uniongred yn cadw’n gaeth at y deddfau bwyd hyn, ond gall rhai Iddewon Diwygiedig neu Ryddfrydol ddewis peidio.
Kosher
Mae’r term kosher yn cyfeirio at fwydydd y mae Iddewon yn cael eu bwyta. Ystyr kosher yw addas, a dyma’r label a ddefnyddir ar gyfer pob bwyd y mae Iddewon yn cael ei fwyta. Mae bwydydd kosher yn cynnwys:
- pob ffrwyth
- pob llysieuyn
- anifeiliaid sydd â charnau hollt ac sydd hefyd yn cnoi cil
- rhai adar, er enghraifft cyw iâr, hwyaden, twrci, ond mae adar ysglyfaethus wedi’u gwahardd
- pysgod sydd ag esgyll a chen
Shechitah
Er mwyn i anifeiliaid fod yn kosher rhaid iddynt fod wedi’u lladd mewn ffordd arbennig. Rhaid eu lladd mewn ffordd sy’n achosi’r lleiaf o boen i’r anifail. Mae hyn yn galw am dorri gwddf yr anifail â chyllell finiog sy’n achosi iddo fynd yn anymwybodol a marw’n syth heb ddioddef yn hir. Shechitah yw’r enw ar y dull hwn o ladd.
Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt, “Dywedwch wrth bobl Israel: ‘O’r holl anifeiliaid sy’n byw ar y ddaear, dyma’r rhai y cewch eu bwyta: unrhyw anifeiliaid sy’n hollti’r ewin ac yn ei fforchi i’r pen, a hefyd yn cnoi cil.