Manteision cadw Shabbat
Mae sawl mantais i gadw'r Shabbat. Mae’n rhoi'r cyfle i Iddewon dreulio amser pwysig gyda'u teuluoedd, ac anghofio am fwrlwm a phrysurdeb bywyd bob dydd. Mae hefyd yn gyfle i ymlacio, yn hytrach na gwneud gwaith a delio gyda thechnoleg. Yn ogystal, mae'n rhoi amser iddyn nhw feddwl am eu credoau crefyddol, er enghraifft Duw a’r Torah.
Mynegir pwysigrwydd y cartref hefyd yn ystod y dathliadau Shabbat wythnosol. Wrth gadw Shabbat, mae Iddewon yn ufuddhau i ddau o’r mitzvahGorchymyn neu weithred dda. Y ffurf luosog yw mitzvot. yn ogystal â chofio rhyddid yr Israeliaid o gaethwasiaeth yn yr Aifft.
Bydd pob teulu’n dathlu Shabbat yn ei ffordd ei hun, ond bydd y rhan fwyaf o ddathliadau’n cynnwys llawer o baratoadau cyn dechrau Shabbat, er enghraifft:
- cynnau canhwyllau
- pryd teuluol fydd yn cynnwys dwy dorth bleth o fara, sef challahBara arbennig wedi ei blethu, sy'n cael ei fwyta ar y Shabbat.
- gweddïau
- ymweliadau â’r synagog
Heriau cadw Shabbat
Er bod llawer o fanteision i Shabbat, mae’n gallu cyflwyno ambell her hefyd i deuluoedd Iddewig modern.
Gall person Iddewig orfod gadael y gwaith yn gynnar ar ddydd Gwener, gan fod Shabbat yn dechrau gyda’r machlud ar nos Wener. Mae hyn yn golygu y gall Shabbat ddechrau mor gynnar â 15:29 yn ystod misoedd y gaeaf, a gallai hyn achosi problem mewn rhai swyddi, os yw pobl yn ei chael hi’n anodd gadael y gwaith yn fuan. Gall myfyrwyr orfod gadael yr ysgol yn fuan ar brynhawn Gwener hefyd, a gallent golli gwersi pwysig.
Mae’n gallu golygu llawer o waith paratoi hefyd i Iddewon Uniongred sy’n cymryd y deddfau Shabbat yn ddifrifol iawn. Disgwylir i Iddewon ddiffodd pob dyfais drydanol, fel popty, peiriant golchi llestri a goleuadau yn ystod Shabbat. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddyn nhw efallai osod dyfeisiau amseru i gynnau a diffodd goleuadau a pharatoi’r pryd bwyd ymlaen llaw.
Avot melakhah
Enw’r rhestr o dasgau sydd wedi’u gwahardd yn ystod Shabbat yw avot melakhah, ac mae’n cynnwys:
- dim gweithio
- dim coginio
- dim gyrru
- dim defnyddio’r ffôn
- dim golchi dillad
- dim trin arian
Gall hyn fod yn anodd i lawer o deuluoedd modern a gall olygu bod teuluoedd yn gorfod cerdded milltiroedd i’w synagog leol ar y bore Sadwrn, am nad ydynt yn cael defnyddio’u ceir na chludiant cyhoeddus yn ystod Shabbat.
Question
Esboniwch sut mae’r Iddewon yn dathlu Shabbat.
Mae Iddewon yn dathlu Shabbat bob wythnos o fachlud haul dydd Gwener hyd fachlud dydd Sadwrn. Mae hwn yn amser pwysig i Iddewon gan eu bod yn cadw’r gorchymyn gan Dduw i gadw’r dydd Saboth yn sanctaidd. Yn ystod y cyfnod cyn Shabbat, bydd teuluoedd Iddewig yn paratoi aml i dasg ymlaen llaw, gan eu bod wedi’u gwahardd rhag gwneud llawer o bethau yn ystod yr amser hwn. Gallant wneud pethau fel coginio’r cinio, glanhau’r tŷ a gosod dyfeisiau amseru i gynnau a diffodd y goleuadau. Yn ystod Shabbat bydd Iddewon yn cael pryd bwyd teuluol, sydd yn draddodiadol yn cynnwys dwy dorth bleth o fara, a elwir yn challah. Byddant yn treulio llawer o amser fel teulu i ffwrdd oddi wrth dechnoleg fel y teledu a ffonau symudol. Byddant yn gweddïo, yn astudio’r Torah ac yn mynd i’r synagog. Ymhlith y pethau y mae Iddewon wedi’u gwahardd rhag eu gwneud yn ystod Shabbat mae trin arian, gweithio a gyrru.