Darllen y Torah
Pan ddarllenir y Torah yn ystod gwasanaeth synagog, bydd un o aelodau’r gynulleidfa’n agor yr arch, neu’r Aron Hakodesh.
Caiff sgroliau’r Torah eu cymryd allan o’r Aron Hakodesh, a rhannau ohono'n cael eu darllen yn y synagog dair gwaith bob wythnos. Dros y flwyddyn i gyd, caiff y sgrôl gyfan ei darllen o’r dechrau i’r diwedd.
Parshioth yw’r enw ar y darnau arbennig a ddewisir i’w darllen ac fel arfer byddant rhwng tair a phum pennod o ran hyd. Gwneir y darlleniad gan ddefnyddio alaw hynafol, a’i chanu yn hytrach na’i llefaru.
Ni fydd neb yn cyffwrdd yn uniongyrchol yn sgroliau’r Torah pan fyddant wedi’u hagor ar y bimah, a defnyddir yad (ffon bwyntio) er mwyn gwarchod y Torah. Gwneir y darllen neu’r llafarganu gan rywun sydd wedi’i hyfforddi i wneud y gwaith. Ond gall y rabbiAthro ac arweinydd crefyddol gyda'r awdurdod i wneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â chyfraith Iddewig. Rabbi yw prif swyddog crefyddol synagog, ac yn aml (ond nid bob amser) bydd yn arwain yr addoliad ac yn cynnal defodau a seremonïau. wneud hyn. Mae’n anrhydedd mawr iawn i aelod o’r gynulleidfa gael cymryd rhan mewn darlleniad yn ystod gwasanaeth synagog.
Wedi darllen y Torah, caiff ei osod yn ofalus yn ôl yn yr arch.