Addoli yn y synagogSynagogau Uniongred a Diwygiedig

Mae'r synagog yn fan addoli ar gyfer Iddewon. Mae gan synagogau wahanol nodweddion mewnol. Bydd Iddewon yn darllen y Torah yn ystod yr addoliad, ac mae gan synagogau Uniongred a Diwygiedig wahanol arferion.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Synagogau Uniongred a Diwygiedig

Mae rhai gwahaniaethau rhwng synagogau Uniongred a Diwygiedig.

Eisteddleoedd

Yn draddodiadol, byddai dynion a menywod yn cael eu gwahanu yn ystod addoliad yn y synagog, er mwyn osgoi tynnu eu sylw a sicrhau bod pawb yn canolbwyntio ar y gwasanaeth.

Mewn synagogau Uniongred, maen nhw’n dal i wahanu dynion a menywod, a’u rhoi i eistedd mewn gwahanol rannau o’r synagog ar gyfer y gwasanaeth.

Mewn synagogau Diwygiedig, erbyn hyn bydd dynion a menywod yn eistedd gyda’i gilydd.

Ordeinio rabïaid

Arweinydd crefyddol Iddewig wedi’i ordeinio yw rabbi, sydd wedi’i hyfforddi i ddehongli a chymhwyso’r ysgrythurau cysegredig i gwestiynau ac amgylchiadau cyfoes. Yn draddodiadol, dim ond dynion allai gael eu hordeinio’n rabbi mewn Iddewiaeth. Mae’r traddodiad Uniongred yn dal i wahardd menyw yn rabbi. Mae mudiadau Diwygiedig yn fwy hyblyg ynglŷn â hyn ac yn caniatáu ordeinio menywod yn rabbi. Ond bydd rhai pethau o hyd na all fenywod eu gwneud, fel cael ei chyfrif yn y .

Question

Disgrifiwch y gwahaniaethau rhwng y synagog Uniongred a’r un Ddiwygiedig.