Duw a chelfyddyd
Ystyr y term ‘eilunaddoliaeth’ yw addoli delwedd neu wrthrych sydd wedi’i greu, ac mae hyn yn cael ei ystyried yn bechod mawr mewn Iddewiaeth. Am y rheswm hwn, dydy Duw byth yn cael ei gyfleu mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, ac yn wahanol i nifer o grefyddau eraill, dydy delweddau na cherfluniau o Dduw byth i'w gweld mewn unrhyw synagog neu addoldy Iddewig.
Daw’r ddeddf hon mewn Iddewiaeth o’r ail o’r Deg Gorchymyn.
Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na’r ddaear isod.
D-w
I lawer o Iddewon, mae Duw mor bwysig fel bod rhaid cymryd pwyll wrth ddefnyddio’i enw. Mae enw Duw’n sanctaidd neu’n gysegredig, nid yn bydolRhywbeth sydd ddim yn sanctaidd, hynny yw rhywbeth seciwlar., ac felly mae’n wahanol i unrhyw air arall. Defnyddir y gair Duw mewn iaith bob dydd ond i lawer o Iddewon mae’r enw Duw ymhell o fod yn gyffredin.
Bydd llawer o Iddewon yn ysgrifennu D-w, gan hepgor un llythyren. Gwnânt hyn rhag ofn i’r papur y mae wedi’i ysgrifennu arno gael ei niweidio neu ei drin yn amharchus. Mae enw Duw mor sanctaidd i lawer o Iddewon fel na wnânt ddweud nac ysgrifennu ei enw ond mewn gweddiCyfathrebu â Duw. Ffordd o ddatblygu perthynas bersonol â Duw. ac yn sgroliau’r Torah.