Nodweddion arddullCyflythrennu / Cytseinedd

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cyflythrennu / Cytseinedd

Cyflythrennu yw defnyddio dau air neu fwy sy’n dechrau â’r un llythyren ar ôl ei gilydd. Weithiau bydd beirdd yn defnyddio cyflythrennu i gyfleu sŵn neu symudiad er mwyn creu awyrgylch benodol, neu i adlewyrchu ystyr y geiriau.

DyfyniadEffaith
Hen, hen yw murmur llawer man” (Eifionydd - R. Williams Parry)Mae’r cyflythreniad meddal hwn yn cyfleu tawelwch ardal Eifionydd i’r bardd.
“Dilynem ddartiau gwyn y gwylain aflonydd yn trywanu targed y creigiau.” (Glas - Bryan Martin Davies)Mae’r cyflythrennu yma yn pwysleisio cyflymder y gwylain yn hedfan wrth iddyn nhw blymio’n gyflym tuag at y môr.
DyfyniadHen, hen yw murmur llawer man” (Eifionydd - R. Williams Parry)
EffaithMae’r cyflythreniad meddal hwn yn cyfleu tawelwch ardal Eifionydd i’r bardd.
Dyfyniad“Dilynem ddartiau gwyn y gwylain aflonydd yn trywanu targed y creigiau.” (Glas - Bryan Martin Davies)
EffaithMae’r cyflythrennu yma yn pwysleisio cyflymder y gwylain yn hedfan wrth iddyn nhw blymio’n gyflym tuag at y môr.
Delwedd o bedair gwylan (a gyflwynwyd i edrych fel dartiau gwyn) yn hedfan dros y môr tuag at eu targed; y creigiau.