Nodweddion arddullGwrthgyferbyniad / Cyferbyniad

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Gwrthgyferbyniad / Cyferbyniad

Mae gwrthgyferbyniad neu gyferbyniad yn nodwedd sy’n pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng dau beth. Wrth ddefnyddio’r nodwedd hon, mae beirdd yn cyfosod dwy ddelwedd wahanol ar bwys ei gilydd. Er enghraifft, gosod rhywbeth mawr wrth rywbeth bach, neu rywbeth tywyll wrth rywbeth golau.

DyfyniadEffaith
“Sŵn y byw diflasa’n bod”, “Y sŵn byw melysa’n bod” (Gweld y Gorwel – Aneirin Karadog)Mae’r cyferbyniad yma’n effeithiol oherwydd ei fod yn pwysleisio bod y druggie wedi gwella o ganlyniad i’r cyfnod y mae ef wedi ei dreulio yn y ganolfan rehab. Mae bywyd oedd yn ddiflas, yn werth ei fyw erbyn diwedd y gerdd.
“Fy mrawd iach - fy mradychwr” (Cydwybod - Meirion MacIntyre Huws)Mae’r cyferbyniad yma’n effeithiol oherwydd ei fod yn pwysleisio bod ei gydwybod yn gallu bod yn gyfaill ac yn elyn iddo. Gall ei gydwybod ofalu amdano ond hefyd ei fradychu.
Dyfyniad“Sŵn y byw diflasa’n bod”, “Y sŵn byw melysa’n bod” (Gweld y Gorwel – Aneirin Karadog)
EffaithMae’r cyferbyniad yma’n effeithiol oherwydd ei fod yn pwysleisio bod y druggie wedi gwella o ganlyniad i’r cyfnod y mae ef wedi ei dreulio yn y ganolfan rehab. Mae bywyd oedd yn ddiflas, yn werth ei fyw erbyn diwedd y gerdd.
Dyfyniad“Fy mrawd iach - fy mradychwr” (Cydwybod - Meirion MacIntyre Huws)
EffaithMae’r cyferbyniad yma’n effeithiol oherwydd ei fod yn pwysleisio bod ei gydwybod yn gallu bod yn gyfaill ac yn elyn iddo. Gall ei gydwybod ofalu amdano ond hefyd ei fradychu.

Question

Beth yw effaith y cyferbyniad hwn yn y gerdd Tai Unnos gan Iwan Llwyd?

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd / drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd