Nodweddion arddullCynghanedd

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cynghanedd

Cyfatebiaeth cytseiniaid mewn llinell yw cynghanedd ac mae’r bardd hefyd yn defnyddio odlau mewn llinell i greu effaith.

DyfyniadEffaith
“Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl” (Etifeddiaeth - Gerallt Lloyd Owen)Mae sŵn caled y cytseiniaid a ddefnyddir yn y llinell hon yn cyfleu dicter y bardd at y modd y mae’r Cymry’n trin y wlad.
Dyfyniad“Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl” (Etifeddiaeth - Gerallt Lloyd Owen)
EffaithMae sŵn caled y cytseiniaid a ddefnyddir yn y llinell hon yn cyfleu dicter y bardd at y modd y mae’r Cymry’n trin y wlad.

Question

Pa effaith sy'n cael ei chreu gan y gynghanedd yn y gerdd Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen?

Cawsom wlad i’w chadw, / darn o dir yn dyst