Nodweddion arddullTrosiad

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Trosiad

Mae pwrpas trosiadau yn debyg iawn i bwrpas cymariaethau. Mae trosiadau yn dweud bod rhywbeth yn rhywbeth arall yn hytrach na'i gymharu â rhywbeth arall.

Dyma enghreifftiau o drosiadau o gerddi penodol:

DyfyniadEffaith
“Mae poptŷ’r hydref wedi’u rhostio” (Walker’s Wood – Myrddin ap Dafydd)Mae tymor yr hydref wedi newid lliw y dail yn frown fel y byddai popty/ffwrn yn gallu llosgi bwyd.
Dyfyniad“Mae poptŷ’r hydref wedi’u rhostio” (Walker’s Wood – Myrddin ap Dafydd)
EffaithMae tymor yr hydref wedi newid lliw y dail yn frown fel y byddai popty/ffwrn yn gallu llosgi bwyd.
Darlun o gogydd gyda'r enw 'HYDREF' ar ei het, yn cymryd hambwrdd llawn dail aur, disglair, crychlyd allan o'r popty.
DyfyniadEffaith
“treiddiodd dart trwy hedd y dŵr” (Glas y Dorlan – Rhys Dafis)Disgrifia’r bardd yr aderyn yn hela yn y trosiad hwn. Trwy ddweud mai "dart" yw’r aderyn mae’n cyfleu pa mor gyflym y plymiodd drwy’r dŵr. Mae’n cyferbynnu â llonyddwch yr aderyn yn gwylio’r dŵr yn amyneddgar.
Dyfyniad“treiddiodd dart trwy hedd y dŵr” (Glas y Dorlan – Rhys Dafis)
EffaithDisgrifia’r bardd yr aderyn yn hela yn y trosiad hwn. Trwy ddweud mai "dart" yw’r aderyn mae’n cyfleu pa mor gyflym y plymiodd drwy’r dŵr. Mae’n cyferbynnu â llonyddwch yr aderyn yn gwylio’r dŵr yn amyneddgar.

Question

Beth yw effaith y trosiad yn y gerdd Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen?

Troesom ein cenedl i genhedlu / estroniaid heb ystyr i’w hanes, / gwymon o ddynion heb ddal / tro’r trai.