Ailadrodd
Ailadrodd yw’r dechneg o ddefnyddio un gair neu ymadrodd dro ar ôl tro i bwysleisio rhywbeth arbennig.
| Dyfyniad | Effaith |
| "Sbwriel oes yr iâ ...”, “ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau ...”, “rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr ...” (Tai Unnos – Iwan Llwyd) | Mae "sbwriel" yn cael ei ailadrodd yn y gerdd hon sawl gwaith am ei fod am bwysleisio nad oes dim byd wedi newid ar hyd y canrifoedd. Bu pobl yn ddigartref erioed – ond mae un peth wedi newid – sbwriel naturiol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol er mwyn adeiladu cartrefi. Heddiw sbwriel sy’n wastraff mewn siopau a chartrefi a ddefnyddir i gysgodi’r digartref. |
| “Daeth saith canrif ynghyd ...”, “saith canrif o sôn ...”, “saith canrif o sefyll ...” (11.12.82 - Iwan Llwyd) | Yn yr enghraifft hon, mae ‘saith canrif’ yn cael ei ailadrodd oherwydd bod y bardd eisiau pwysleisio cymaint o amser sydd wedi mynd heibio ers i Llywelyn ein Llyw Olaf gael ei ladd. Mynega’r bardd ei siom nad yw’r Cymry wedi brwydro ac amddiffyn eu hunain yn ystod y cyfnod hir yma a’n bod yn parhau i edrych ar y gorffennol. |
| Dyfyniad | "Sbwriel oes yr iâ ...”, “ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau ...”, “rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr ...” (Tai Unnos – Iwan Llwyd) |
|---|---|
| Effaith | Mae "sbwriel" yn cael ei ailadrodd yn y gerdd hon sawl gwaith am ei fod am bwysleisio nad oes dim byd wedi newid ar hyd y canrifoedd. Bu pobl yn ddigartref erioed – ond mae un peth wedi newid – sbwriel naturiol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol er mwyn adeiladu cartrefi. Heddiw sbwriel sy’n wastraff mewn siopau a chartrefi a ddefnyddir i gysgodi’r digartref. |
| Dyfyniad | “Daeth saith canrif ynghyd ...”, “saith canrif o sôn ...”, “saith canrif o sefyll ...” (11.12.82 - Iwan Llwyd) |
|---|---|
| Effaith | Yn yr enghraifft hon, mae ‘saith canrif’ yn cael ei ailadrodd oherwydd bod y bardd eisiau pwysleisio cymaint o amser sydd wedi mynd heibio ers i Llywelyn ein Llyw Olaf gael ei ladd. Mynega’r bardd ei siom nad yw’r Cymry wedi brwydro ac amddiffyn eu hunain yn ystod y cyfnod hir yma a’n bod yn parhau i edrych ar y gorffennol. |
Question
Mae Aneirin Karadog yn defnyddio ailadrodd yn y gerdd Gweld y Gorwel. Pa effaith mae hyn yn ei gael ar y darllenydd?
Yn rehab, bod yw’r rheol, — bod drwy’r dydd, / bod drwy’r daith hunanol / wna druggie’n dod o’i rigol.
Mae ailadrodd bod drwy’r dydd, bod drwy’r daith
yn cyfleu pa mor ailadroddus yw bywyd y ‘druggie’. Mae ei gaethiwed i gyffuriau wedi ei arwain at fod yn gaeth yn ‘rehab’. Mae’n cyfleu’r diflastod sy’n perthyn i’w fywyd pob dydd.
More guides on this topic
- Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Cymharu dwy gerdd
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd