Agweddau tuag at y gosb eithaf yn yr 20fed ganrif
Diddymwyd y gosb eithaf yn Neddf Llofruddiaeth (Diddymu’r Gosb Eithaf) 1965. Roedd y ddeddf hon yn ganlyniad i newid agwedd tuag at ddefnyddio’r gosb eithaf.
Dadleuon o blaid defnyddio’r gosb eithaf
- Roedd rhai pobl yn ystyried bod y gosb eithaf yn ataliaethAnnog rhywun i beidio â throseddu drwy wneud iddyn nhw ofni’r goblygiadau. rhag troseddau difrifol megis llofruddiaeth.
- Ychydig iawn o bobl oedd yn cael eu dienyddio bob blwyddyn. Roedd pawb oedd yn cael eu dienyddio wedi cael eu canfod yn euog o lofruddiaeth.
- Dim ond pum trosedd oedd yn droseddau eithaf - llofruddiaeth, teyrnfradwriaeth, môr-ladrad treisgar, ysbïo a llosgi storfa arfau neu iard dociau’r llynges. Dim ond pobl a ganfuwyd yn euog o gyflawni troseddau difrifol ellid eu dienyddio. Ar ôl 1957, dim ond llofruddiaeth oedd yn drosedd eithaf. Roedd hynny’n golygu, erbyn dechrau’r 1960au, mai dim ond llofruddiaethau wedi'u cynllunio oedd yn arwain at ddienyddio.
Dadleuon yn erbyn defnyddio’r gosb eithaf
- euogfarnPan fydd llys yn penderfynu bod rhywun yn euog o drosedd. anghywir. Bu achosion amlwg o bobl yn cael eu dienyddio ac yna’n cael eu canfod yn ddieuog, megis Walter Rowland yn 1947 a Timothy Evans yn 1950.
- Fe wnaeth achosion Derek Bentley, a oedd mewn cysylltiad gyda llofruddiaeth yn 1952, a Ruth Ellis, sef y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y DU, berswadio llawer y dylai’r gosb eithaf ddod i ben.
- Er gwaetha’r gosb eithaf, roedd llofruddiaeth yn dal i ddigwydd. Nid oedd yn ymddangos bod y gosb eithaf yn atal llofruddiaethau.
- Roedd pobl yn gynyddol yn ystyried bod y gosb eithaf yn farbaraidd ac anwar. Fe wnaeth nifer o wledydd eraill hefyd ddiddymu’r gosb eithaf.