Pwrpas cosbi cyhoeddus drwy’r oesoedd
Hyd at ganol y 19eg ganrif roedd pobl yn cael eu cosbi'n gyhoeddus gyda’r cyhoedd yn eu gwylio. Roedd dienyddio’n digwydd ar grocbrennau cyhoeddus yng nghanol trefi a dinasoedd, ac yn aml roedden nhw’n denu torfeydd o gannoedd o bobl i’w gwylio.
Roedd cosbau cyhoeddus yn galluogi i’r gymuned gyfan ddial ar y troseddwr ac i weld bod y troseddwr wedi derbyn ad-daledigaethDial ar rywun am droseddu. Gweinyddu cosb gyfartal neu gyfatebol am drosedd.. Roedd hynny hefyd yn ataliaeth. Credid bod galluogi’r cyhoedd i weld y troseddwr yn dioddef ac mewn poen yn ffordd effeithiol o atal pobl rhag droseddu.
Cosbau cyhoeddus yn y 16eg a’r 17eg ganrif
Rhwng 1500 a 1700, roedd bron pob cosb yn cael eu gweinyddu'n gyhoeddus, megis crwydriaid yn cael eu chwipio’n gyhoeddus yn ôl i’w pentrefi eu hunain, a rhoi mân ladron mewn cyffion a rhigodau.

Cosbau cyhoeddus yn y 18fed a’r 19eg ganrif
Roedd cosbau yn dal i gael eu gweinyddu’n gyhoeddus yn ystod y 18fed ganrif ond daeth yn llai a llai cyffredin. Daeth Comisiwn Brenhinol ar y Gosb Eithaf (1864) i'r casgliad na ddylai dienyddio gael ei weinyddu’n gyhoeddus mwyach.
- Roedd torfeydd enfawr yn mynychu’r dienyddio. Roedd hynny yn creu mwy o gyfleoedd i droseddu megis pigo pocedi. Yn aml roedd y torfeydd yn anodd i’w rheoli.
- Roedd y torfeydd yn gynyddol yn ystyried bod y dienyddio yn fath o adloniant. Dechreuodd y llywodraeth weld nad oedd dienyddio cyhoeddus mwyach yn cael yr effaith ataliol.
- Roedd dienyddio cyhoeddus ar brydiau yn golygu bod y troseddwr yn dod yn enwog ac yn ymddangos yn arwrol.
Daeth mathau eraill o gosbi cyhoeddus i ben hefyd yn y 19eg ganrif. Dechreuwyd fflangelluChwipio rhywun. y tu mewn i garchardai. Nid oedd y cyffion a’r rhigod yn cael eu defnyddio mwyach.
Cosbau cyhoeddus yn yr 20fed a’r 21ain ganrif
Yn y ddwy ganrif ddiwethaf, gwasanaeth cymunedol yw’r unig gosb sy’n cael ei chyflawni yn gyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2008, i ymateb i bwysau gan y cyhoedd i wneud cosbau’n fwy amlwg, cyflwynodd Jack Straw, yr Ysgrifennydd Cartref, yr angen i wisgo festiau llachar.
Ond mae’r cyfryngau hefyd yn gyfrwng i godi cywilydd yn gyhoeddus oherwydd gallan nhw sôn am y cosbau sy’n cael eu rhoi gan y llysoedd. Yn aml, mae’r papurau lleol yn gohebu am ddedfrydau a roddwyd yn ddiweddar. Ac mae’r papurau cenedlaethol yn cyhoeddi lluniau o droseddwyr adnabyddus sydd wedi cael dedfryd o wasanaeth cymunedol.