Y defnydd o alltudio yn y 18fed a’r 19eg ganrif
Mae alltudio, neu drawsgludo, yn golygu anfon rhywun o’r wlad a dechreuwyd alltudio fel math o gosb yn ystod y 18fed ganrif.
Roedd trawsgludo yn ddewis arall i’r gosb eithaf. Yn ystod cyfnod y Cod GwaedlydYr enw a roddwyd ar system gyfreithiol Prydain yn ystod y 18fed ganrif oherwydd bod nifer o’r troseddau yn droseddau’r gosb eithaf., roedd barnwyr eisiau cosb llai llym na’r gosb eithaf. Ystyriwyd bod alltudio yn gosb dda oherwydd bod y troseddwr yn cael ei anfon o’r wlad, a felly fyddai methu cyflawni mwy o droseddau.
Roedd alltudiaeth yn rhatach na charcharu, a bu hynny’n gymorth hefyd i Brydain ennill rheolaeth o Awstralia, i drin y tir ac i’w gwladychu. Cyn i Gapten Cook ddarganfod Awstralia yn 1770, roedd carchardai a llongau carchar yn orlawn iawn. Rhwng 1787 ac 1867, cafodd 160,000 o droseddwyr eu trawsgludo i Awstralia.
Nid oedd alltudio yn gosb garedig oherwydd roedden nhw’n ddedfrydau o saith neu 14 blynedd, neu am oes. Roedd yr amodau ar y daith ac ar ôl cyrraedd yn llym. Roedd yr awdurdodau’n dal i obeithio y byddai alltudio’n atal pobl rhag troseddu, ond hefyd byddai cyfle iddynt gael eu diwygio gan y gwaith caled. Mae hyn yn dangos newid mawr yn yr agweddau o gymharu â dienyddio.
Daeth trawsgludo i ben fel math o gosb yn 1868. Roedd agweddau yn newid yn gynyddol ac ystyriwyd y dylai cosb diwygioGwneud newidiadau i rywbeth neu rywun, er mwyn ei wella. ac ailgymhwysoAdfer rhywun i fywyd normal. Gwneud rhywun yn well, neu i gael rhywun i wella o rywbeth. troseddwr yn hytrach na’u halltudio. Ystyriwyd bod anfon troseddwyr i Awstralia yn annheg oherwydd bod nifer cynyddol o bobl o Brydain yn talu i ymfudo yno i ddechrau bywyd newydd. Roedd y setlwyr rhydd yn Awstralia yn gynyddol anniddig bod miloedd o droseddwyr yn cael eu hanfon atyn nhw.