Agweddau tuag at gosbiAd-daledigaeth ac ataliaeth yn y 18fed ganrif

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’r hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Ad-daledigaeth ac ataliaeth yn y 18fed ganrif

Roedd agweddau ac yn parhau i fod yn sail i nifer o gosbau’r 18fed ganrif. Roedd cosbau yn parhau i fod yn gosbau corfforol a dienyddio. Roedd cosbau corfforol yn dal i gael eu defnyddio yn ystod y ganrif hon, ond oedd y gosb a ddefnyddiwyd amlaf.

Roedd dienyddio’n parhau i ddigwydd yn gyhoeddus yn y 18fed ganrif, yn bennaf y tu allan i Garchar Newgate yn Llundain. Ar ôl 1783 defnyddiwyd dull cyflymach o ddienyddio drwy dynnu platfform o dan draed y carcharor. Roedd hynny yn torri gwddf y troseddwr ac yn arwain at farwolaeth gyflymach a llai poenus.

Daeth mwy a mwy o droseddau yn droseddau eithaf yn sgil datblygiad troseddau newydd yn y 18fed ganrif, o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol ac economaidd. Roedd yr holl Aelodau Seneddol (y deddfwyr) yn dirfeddianwyr o’r bonedd, ac roedden nhw’n ofni’r cynnydd yn y troseddau a oedd yn bygwth eu heiddo.

Credai’r Aelodau Seneddol y dylai’r cosbau fod mor llym â phosibl, er mwyn atal pobl rhag troseddu, i gael gwared ar y troseddwyr gwaethaf drwy eu dienyddio, ac i ddarparu ffordd o ddial i’r ddioddefwyr. Daeth dros 200 o droseddau’n rhai a fyddai’n arwain at y gosb eithaf, sef at farwolaeth. Y Cod Troseddol, neu’r , oedd yr enw ar y newidiadau hyn, ac roeddent yn cynnwys y canlynol:

  • dwyn defaid
  • potsio pysgod
  • torri coeden oedd yn tyfu

Fodd bynnag, roedd difrifoldeb y Cod Gwaedlyd hwn yn golygu bod beirniaid a rheithgorau yn aml yn osgoi ei ddilyn. Byddai’n well gan rai ohonyn nhw i gael troseddwr yn ddieuog yn hytrach na rhoi’r gosb eithaf. Roedd eraill yn defnyddio fel cosb lai llym, ond un a fyddai’n dal i atal pobl rhag troseddu. Nid oedd cael y gosb eithaf fel ataliaeth ar gyfer gymaint o droseddau yn gweithio yn ymarferol.

Ar gyfer troseddau llai, fel gamblo, meddwdod ac ymddygiad anweddus yn gyhoeddus, roedd dirwyon ariannol yn dal yn fath cyffredin o gosb.