Defnyddio carchardai i gosbi a diwygio yn y 19eg ganrif
Agweddau tuag at garchardai cyn y 19eg ganrif
Yn anaml iawn y defnyddiwyd carchardai yn y 16eg a’r 17eg ganrif oherwydd ni ystyriwyd eu bod yn diwygioGwneud newidiadau i rywbeth neu rywun, er mwyn ei wella. nac atal. Fe’u defnyddiwyd i ddal pobl cyn treial a chyn gweinyddu eu cosb corfforol neu’r gosb eithaf. Roedd yr amodau yn y carchardai yma yn wael.
Defnyddiwyd tai cywiro yn oes y Tuduriaid, ac ar brydiau fe’u gelwid yn dalfaCyweirdy – math o garchar.. Roedden nhw’n ceisio diwygio cardotwyr parhaus, ac roedden nhw’n 'cywiro' mamau dibriod. Roedd yno hefyd garchar ar gyfer pobl mewn dyled, ac roedd pobl yn aros yno nes yr oedden nhw wedi talu eu dyledion.
Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd alltudio i America (1776) a dechrau alltudio i Awstralia (1787), llanwodd y carchardai. Roedden nhw hyd yn oed yn dechrau defnyddio llong garcharLlong ryfel segur a ddefnyddiwyd fel carchar dros-dro. fel carchardai. Roedd yr amodau ar y llongau carchar yn erchyll, ac roedd tua chwarter y carcharorion yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i afiechydon neu drais.
Roedd carchardai’r 18fed ganrif yn wael a dechreuodd nifer o bobl awgrymu y dylid diwygio’r carchardai. Yn 1777, cyhoeddodd John Howard adroddiad ar amodau carchardai o’r enw The State of Prisons in England and Wales. Ei brif arsylwadau oedd:
- nid oedd carcharorion yn cael eu gwahanu yn ôl rhyw na math o drosedd
- roedd nifer o garcharorion yn marw o salwch neu afiechydon
- roedd ceidwaid carchardai yn aml yn llwgr
- nid oedd digon o bobl yn cael eu cyflogi i sicrhau bod carchardai yn ddiogel
- roedd nifer o garcharorion yn aros yn y carchar y tu hwnt i ddiwedd eu dedfrydau oherwydd nad oedden nhw’n gallu fforddio ffi ceidwad y carchar am eu rhyddhau
Roedd Howard yn argymell cadw carcharorion mewn celloedd ar eu pen eu hunain er mwyn atal pobl rhag cael dylanwad negyddol ar ei gilydd. Roedd e'n credu byddai hyn yn rhoi amser iddyn nhw feddwl am eu troseddau ac ymddygiad. Credai y gallai carchardai fod yn llefydd i ddiwygio troseddwyr. Roedd ei ymchwil a’i farn yn ddylanwad ar greu newid mewn agweddau tuag at swyddogaeth carchardai.
Dechreuodd diwygwyr carchardai eraill fynnu bod newidiadau’n digwydd er mwyn sicrhau eu bod yn fwy diogel a hylan. Dyluniodd G O Paul garchar newydd, yn seiliedig ar bedair egwyddor bwysig, sef diogelwch, iechyd, gwahanu a diwygio. Roedd yna lefydd ar wahân i garcharorion gwrywaidd a benywaidd, yn ogystal â chapel ac ystafelloedd gweithio a iardiau ymarfer corff.
Agweddau’r 19eg ganrif tuag at garchardai
Parhaodd y pwysau i ddiwygio carchardai diolch i Elizabeth Fry. Ymgyrchodd am well amodau i garcharorion benywaidd yng Ngharchar Newgate a threuliodd amser yn dysgu sgiliau i garcharorion.
Perswadiodd Fry lawer o bobl ar y pryd fod yr amodau yn y carchardai yn annynol ac yn anwaraidd. Roedd hyn yn taro tant gyda’r gymdeithas yn nechrau Oes Fictoria, ac fe wnaeth ei hymgyrch helpu i newid agweddau tuag at swyddogaeth carchardai a hawliau’r bobl oedd yn cael eu cadw ynddynt. Ymgyrchodd Elizabeth Fry hefyd dros hawliau a lles carcharorion a oedd yn cael eu halltudio.

Deddf Carchardai 1823
Arweiniodd y pwysau gan ddiwygwyr at y Ddeddf Carchardai a oedd yn nodi:
- dylai carchardai fod yn fwy diogel
- dylai ceidwaid carchardai gael cyflog
- dylai carcharorion benywaidd gael eu gwahanu oddi wrth garcharorion gwrywaidd
- dylai meddygon a Chaplaniaid ymweld â charchardai
- dylid ymdrechu i ddiwygio carcharorion
Roedd diwygwyr carchardai yn hyrwyddo'r gred y dylid cynllunio a rhedeg carchardai i ddiwygio carcharorion, a daeth hyn yn agwedd amlwg yn yr 19fed ganrif. Roedd pobl yn credu y gallai carcharorion gael eu diwygio drwy waith caled, myfyrio a chred Gristnogol yn y carchardai. Roedd carchardai’n dod i gael eu hystyried fwyfwy fel llefydd lle gellid diwygio pobl.