Agweddau tuag at gosbiY systemau ar wahân a thawel

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’r hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Y systemau ar wahân a thawel

Rhwng 1842 ac 1877, cafodd 90 o garchardai eu hadeiladu neu ei hymestyn, gan gostio miliynau o bunnau. Adeiladwyd nifer o garchardai yng nghanol y 19eg ganrif oedd yn ddiogel, ac yn galluogi i garcharorion gael celloedd unigol. Yn y carchardai yma defnyddiwyd dwy gyfundrefn wahanol i geisio carcharorion. Roedd y ddwy gyfundrefn yn llym.

Y system ar wahân

Roedd Deddf Carchardai 1839 eisiau i garchardai newydd fabwysiadu'r system gwahanu. Mewn carchardai gwahanu, roedd y carcharorion yn cael eu cadw ar wahân, ar eu pen eu hunain mewn celloedd am wythnosau ac yn gorfod gweithio ar beiriannau fel y peiriant crancio.

Yna byddai carchardai yn ymweld â’u celloedd ac yn ceisio eu hannog i fyw bywyd didrosedd mwy Cristnogol. Credid y byddai carcharor yn myfyrio ar ei drosedd pan fyddai ganddo lawer o amser ar ei ben ei hun, ac yn cael ei ddiwygio.

Os oedd y carcharorion yn gadael eu celloedd, bydden nhw’n gorfod gwisgo masg ac aros yn ddistaw. Ar adeg ymarfer corff, byddai pob carcharor yn gafael mewn rhaff 4.5 metr oddi wrth y carcharor nesaf felly roeddent yn rhy bell oddi wrth ei gilydd i fod yn gallu sgwrsio.

Llun o garcharorion yn pweru rhes o felinau cerdded mewn timau o ddau. Mae un yn gorffwys tra mae’r llall yn gweithio. Mae wardeiniaid yn eu goruchwylio.
Image caption,
Y felin gerdded yng Ngharchar Coldbath Fields, 1868

Y system dawel

Mewn carchardai distaw, byddai’r carcharorion yn gorfod gwneud tasgau diflas ac ailadroddus, fel pasio pel ganon drom, a hynny heb ddweud dim. Bydden nhw’n cysgu ar welyau caled a bydden nhw’n bwyta bwyd sylfaenol fel bara ac yn yfed dŵr.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, nid oedd y system ar wahân na’r system dawel yn gweithio. Roedd y gyfradd hunanladdiad yn uchel ac nid oedd yna lawer o dystiolaeth bod carcharorion yn cael eu diwygio mewn gwirionedd.

Roedd Deddf Carchardai 1865 yn nodi y dylai carchardai fod yn llafur caled, lluniaeth caled ac yn llety caled. Mae hyn yn dangos dychweliad at agwedd o gosbi llym yn hytrach nag ymdrech i ddiwygio carcharorion drwy wahanu neu dawelwch.