Agweddau tuag at gosbiAd-daledigaeth ac ataliaeth: 1900 - 2020au

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’r hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Ad-daledigaeth ac ataliaeth o’r 19eg ganrif i’r 21ain ganrif

19eg ganrif

Yn ystod y 19eg ganrif dechreuodd agweddau tuag at gosbi newid. Roedd yna ddefnydd cynyddol o garchardai, a mwy o bwyslais ar carcharorion. Roedd y syniad o a dial yn dechrau dod yn llai pwysig mewn perthynas â chosbi.

Yn 1823 fe wnaeth Syr Robert Peel ddiddymu’r gosb eithaf ar gyfer 180 o droseddau. Arweiniodd deddfau eraill yn 1832 a 1861 at ostwng nifer y troseddau eithaf i bump yn unig:

  • lofruddiaeth
  • teyrnfradwriaeth
  • môr-ladrad treisgar
  • ysbio
  • dymchwel storfa arfau neu iard dociau’r llynges

Mae hyn yn dangos llawer o ddatblygiadau yn yr agweddau tuag at gosbau.

  • Symud draw oddi wrth gosb gorfforol a’r gosb eithaf.
  • Symud tuag at y syniad o wneud y gosb yn addas i ba mor ddifrifol yw’r drosedd.
  • Sylweddoli bod angen bod yn ymarferol fel y byddai’r llysoedd yn ei dilyn.

Gellir gweld y dyhead am ad-daledigaeth yn gostwng yn y nifer llai o droseddau eithaf oedd yn bodoli. Dim ond oedd yn parhau fel cosb corfforol yn y ganrif hon. Tan 1948, pan ddaeth deddf seneddol â’r gosb i ben, gallai barnwyr orchymyn i droseddwyr gael eu chwipio, ac yn wir fe fydden nhw yn gwneud hynny. Hefyd dechreuwyd gweinyddu cosbau yn breifat, ac roedd hynny yn dangos bod llai o bwyslais ar ddial ac ad-daledigaeth. Daeth dienyddio cyhoeddus i ben yn 1868. Ar ôl hynny roedd dienyddio’n digwydd y tu mewn i garchardai y tu hwnt i lygaid y cyhoedd.

Ond roedd deddfwyr y 19eg ganrif yn dal eisiau i gosbau fod yn ddigon llym i atal troseddwyr. Roedd cosbau corfforol a'r gosb eithaf yn dal i gael eu defnyddio.

Yr 20fed a’r 21ain ganrif

Yn yr oes fodern y bwriad yw bod cosbau yn ataliaeth i droseddwyr, ond nid drwy boen, sarhad na marwolaeth. Colli rhyddid drwy garcharu, dirwyon a gwasanaeth cymunedol yw’r prif fathau o gosbau erbyn hyn.

Yr agweddau modern tuag at gosbi yw diwygio ac carcharorion, a’r nod yw atal aildroseddu.