Hafaliadau a chyfrifiadau cemegolCynnyrch canrannol

Rydyn ni'n defnyddio hafaliadau geiriau a symbolau i ddangos gwybodaeth am adweithiau. Mae cadwraeth màs yn digwydd mewn adweithiau cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio mewn adweithiau cemegol. Gan ein bod ni'n gwybod masau cymharol pob math o atom, gallwn ni ragfynegi masau'r cynhyrchion a'r adweithyddion mewn adweithiau cemegol.

Part ofCemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cynnyrch canrannol

Ar gyfer màs penodol o , gallwn ni gyfrifo’r màs mwyaf o penodol y byddai’n bosibl ei ffurfio. Y màs hwn yw’r cynnyrch damcaniaethol. Y cynnyrch gwirioneddol yw màs y cynnyrch sy’n cael ei wneud wrth gynnal yr adwaith go iawn.

Cyfrifo cynnyrch canrannol

Rydyn ni’n defnyddio’r fformiwla hon i gyfrifo cynnyrch canrannol:

\(\text{Cynnyrch canrannol}~=~\frac{\text{màs gwirioneddol}}{\text{màs disgwyliedig}} \times 100\)

Er enghraifft, os yw’r cynnyrch a ragfynegir yn 20 g ond y cynnyrch gwirioneddol yn 15 g:

Cynnyrch canrannol = (15 ÷ 20) × 100 = 75%

Colli cynnyrch

Mae cynnyrch 100 y cant yn golygu nad oes dim cynnyrch wedi’i golli, ac mae cynnyrch 0 y cant yn golygu nad oes dim cynnyrch wedi’i wneud. Mae’r cynnyrch canrannol yn gallu bod yn llai na 100 y cant am lawer o resymau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • colli wrth hidlo
  • colli wrth
  • colli wrth drosglwyddo hylifau
  • yr adweithyddion ddim i gyd yn adweithio i wneud y cynnyrch

Purdeb canrannol

Gallwn ni gyfrifo purdeb canrannol sylwedd drwy rannu màs y cemegyn pur â chyfanswm màs y sampl, ac yna lluosi’r rhif hwn â 100.