Cyfansoddiad canrannol cyfansoddion
Ar ôl cyfrifo Mr cyfansoddyn, gallwn ni nawr gyfrifo’r canran o’r cyfansoddyn hwnnw sydd wedi’i wneud o elfen benodol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddefnyddio Mr y cyfansoddyn ac Ar yr elfen dan sylw.
% màs = (Cyfanswm Ar yr elfen ÷ Mr y cyfansoddyn × 100
Dyma ddwy enghraifft.
Question
Cyfrifa ganran y calsiwm carbonad, CaCO3 sydd wedi’i wneud o galsiwm.
Cam un – Darganfod Mr y cyfansoddyn.
Mr CaCO3 yw 40 + 12 + (3 × 16) = 100
Cam dau – Cyfrifo cyfanswm màs yr holl atomau o’r elfen dan sylw.
Dim ond un atom calsiwm sydd mewn CaCO3 felly cyfanswm màs yr holl atomau calsiwm yw (1 × 40) = 40
Cam tri – Rhannu cyfanswm màs yr elfen â chyfanswm màs y cyfansoddyn, yna lluosi â 100.
Canran y calsiwm mewn CaCO3 = (40 ÷ 100) × 100 = 40%
Question
Cyfrifa ganran yr haearn(III) ocsid, Fe2O3 sydd wedi’i wneud o haearn.
Cam un – Darganfod Mr y cyfansoddyn.
Mr (Fe2O3) = (2 × 56) + (3 × 16) = 160
Cam dau – Cyfrifo cyfanswm màs yr holl atomau o’r elfen dan sylw.
Mae dau atom Fe yn Fe2O3,felly cyfanswm màs y Fe = 2 × 56 = 112
Cam tri – Rhannu cyfanswm màs yr elfen â chyfanswm màs y cyfansoddyn, yna lluosi â 100.
Canran yr haearn sydd yn Fe2O3 = (112 ÷ 160) × 100 = 70%