Fformiwlâu empirig
Fformiwla empirig cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. yw’r gymhareb rhifau cyfan symlaf o’r atomMae pob elfen wedi'i gwneud o atomau. Mae atom wedi'i wneud o niwclews sy’n cynnwys protonau a niwtronau, wedi'i amgylchynu ag electronau. o bob elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yn y cyfansoddyn.
Rydyn ni’n ei ganfod drwy ddefnyddio data o arbrofion, felly mae’n empirig.
Er enghraifft, fformiwla foleciwlaidd glwcos yw C6H12O6 ond y fformiwla empirig yw CH2O. Mae hyn oherwydd ein bod ni’n gallu rhannu pob rhif yn C6H12O6 â 6 i wneud cymhareb rhifau cyfan symlach.
Ar y llaw arall, gallai cyfansoddyn â’r fformiwla empirig CH2 fod â fformiwla foleciwlaidd o C2H4, C3H6, C4H8 neu hyd yn oed C13H26.
Galli di ddefnyddio gwybodaeth am y màsFaint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni’n mesur màs mewn gramau (g). sy’n adweithio i gyfrifo fformiwla cyfansoddyn.
Enghraifft
Mae 3.2 g o sylffwr yn adweithio ag ocsigen i gynhyrchu 6.4 g o sylffwr ocsid. Beth yw fformiwla’r ocsid?
I wneud y cyfrifiad, bydd angen i ti ddefnyddio’r ffaith bod Ar (màs atom cymharol) sylffwr, S = 32, ac Ar ocsigen, O = 16.
| Cam | Gweithred | Canlyniad | |
| Un | Ysgrifennu symbolau’r elfennau | S | O |
| Dau | Ysgrifennu’r masau | 3.2 g | 6.4 g – 3.2 g = 3.2 g |
| Tri | Ysgrifennu’r gwerthoedd Ar | 32 | 16 |
| Pedwar | Rhannu’r masau ag Ar | 3.2 ÷ 32 = 0.1 | 3.2 ÷ 16 = 0.2 |
| Pump | Rhannu â’r rhif lleiaf | 0.1 ÷ 0.1 = 1 | 0.2 ÷ 0.1 = 2 |
| Chwech | Ysgrifennu’r fformiwla | SO2 |
| Cam | Un |
|---|---|
| Gweithred | Ysgrifennu symbolau’r elfennau |
| Canlyniad | S |
| O |
| Cam | Dau |
|---|---|
| Gweithred | Ysgrifennu’r masau |
| Canlyniad | 3.2 g |
| 6.4 g – 3.2 g = 3.2 g |
| Cam | Tri |
|---|---|
| Gweithred | Ysgrifennu’r gwerthoedd Ar |
| Canlyniad | 32 |
| 16 |
| Cam | Pedwar |
|---|---|
| Gweithred | Rhannu’r masau ag Ar |
| Canlyniad | 3.2 ÷ 32 = 0.1 |
| 3.2 ÷ 16 = 0.2 |
| Cam | Pump |
|---|---|
| Gweithred | Rhannu â’r rhif lleiaf |
| Canlyniad | 0.1 ÷ 0.1 = 1 |
| 0.2 ÷ 0.1 = 2 |
| Cam | Chwech |
|---|---|
| Gweithred | Ysgrifennu’r fformiwla |
| Canlyniad | SO2 |
Mae gweithred cam pump fel arfer yn rhoi’r gymhareb rhifau cyfan symlaf ar unwaith. Weithiau, fydd hyn ddim yn digwydd – efallai y byddi di’n cael 1 ac 1.5. Yn yr enghraifft hon, byddet ti’n lluosi’r ddau rif â 2, i roi 2 a 3 (yn lle talgrynnu 1.5 i fyny i 2).
Trawsnewid y fformiwla empirig yn fformiwla foleciwlaidd
O’r fformiwla empirig, galli di gyfrifo’r fformiwla foleciwlaidd os wyt ti’n gwybod màs fformiwla cymharolRydyn ni’n cyfrifo màs fformiwla cymharol (Mr) cyfansoddyn drwy adio masau atomig cymharol (Ar) yr atomau sy’n bresennol mewn cyfansoddyn. (Mr) y cyfansoddyn.
Adio masau atomig yr atomau yn y fformiwla empirig.
Er enghraifft, fformiwla empirig hydrocarbon yw CH2 a’i Mr yw 42.
- màs yr atomau yn y fformiwla empirig yw 14
- 42 ÷ 14 = 3
- felly mae angen i ti luosi’r rhifau yn y fformiwla empirig â 3
Felly, fformiwla foleciwlaidd yr hydrocarbon yw C3H6.