Cyfrifo masau sy’n adweithio
Os wyt ti’n gwybod màsFaint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni’n mesur màs mewn gramau (g).adweithyddSylwedd sy'n adweithio â sylwedd arall i ffurfio cynhyrchion yn ystod adwaith cemegol. a cynnyrchSylwedd sy’n cael ei ffurfio mewn adwaith cemegol., galli di ddefnyddio cymhareb symlMeintiau cymharol dau neu fwy o rifau, wedi’u dangos fel rhifau cyfan. Er enghraifft, 1:2 neu 3:2. i gyfrifo masau sy’n adweithio a masau cynhyrchion.
Enghraifft un – màs adweithydd
Question
Pan mae 12 g o garbon yn llosgi mewn aer, mae’n cynhyrchu 44 g o garbon deuocsid. Pa fàs o garbon sydd ei angen i gynhyrchu 11 g o garbon deuocsid?
Mae 12 g o garbon yn gwneud 44 g o garbon deuocsid.
Bydd 12 ÷ 44 g o garbon yn gwneud 1 g o garbon deuocsid.
Felly, i wneud 11 g o garbon deuocsid, bydd angen 11 × (12 ÷ 44 g) = 3 g o garbon.
Ateb amgen
Dyma ddull amgen: Màs anhysbys = (Màs hysbys ÷ Mr hysbys) × Mr anhysbys.
Mae hyn yn gweithio oherwydd bod (Màs hysbys ÷ Mr hysbys) yn rhoi nifer y molau o’r sylwedd â’r màs hysbys. Yn yr achos hwn:
(11 g ÷ 44) × 12 = 3 g o garbon i wneud 11 g o garbon deuocsid.
Enghraifft dau – màs cynnyrch
Question
Pan mae 5.0 g o galsiwm carbonad yn cael ei dadelfennuOs yw sylwedd yn dadelfennu, mae’n torri i lawr i ffurfio cyfansoddion symlach neu elfennau. drwy ei wresogi, mae’n cynhyrchu 2.2 g o garbon deuocsid. Pa fàs o galsiwm carbonad sydd ei angen i gynhyrchu 8.8 g o garbon deuocsid?
Mae 5 g o galsiwm carbonad yn gwneud 2.2 g o garbon deuocsid.
Bydd 5 ÷ 2.2 g o galsiwm carbonad yn gwneud 1 g o garbon deuocsid.
Felly, i wneud 8.8 g o garbon deuocsid, bydd angen 8.8 × (5 ÷ 2.2 g) = 20 g o garbon.
Ateb amgen
Dyma ddull amgen: Màs anhysbys = (Màs hysbys ÷ Mr hysbys) × Mr anhysbys.
Mae hyn yn gweithio oherwydd bod (Màs hysbys ÷ Mr hysbys) yn rhoi nifer y molau o’r sylwedd â’r màs hysbys. Yn yr achos hwn:
(8.8 g ÷ 44) × 100 = 20 g o galsiwm carbonad i wneud 8.8 g o garbon deuocsid.
Rhagor o gyfrifiadau masau sy’n adweithio
Gallwn ni ddefnyddio’r hafaliad cytbwys i gyfrifo màs cynnyrch neu adweithydd. Dilyna'r camau hyn.
- Ysgrifennu’r hafaliad symbolau cytbwys. Tanlinellu’r ddau sylwedd o ddiddordeb.
- Ysgrifennu màs sylwedd sydd wedi’i roi o dan ei fformiwla.
- Cyfrifo cyfanswm masau fformiwla cymharol (Mr) pob sylwedd (yr un rwyt ti’n ei wybod a’r un rwyt ti’n ceisio ei ddarganfod). Ysgrifennu’r rhain o dan eu fformiwlâu.
- Cyfrifo: màs anhysbys = (màs hysbys ÷ cyfanswm Mr y sylwedd hysbys) × cyfanswm Mr y sylwedd anhysbys.
Enghraifft wedi’i chyfrifo
Question
Cyfrifa fàs yr haearn (Fe) gallwn ni ei echdynnu o 8 g o Fe2O3 yn yr adwaith â charbon.
| Cam un | 2Fe2O3 + 3C → | 4Fe + 3CO2 |
| Cam dau | 8 g | ? g |
| Cam tri | 2 × 160 = 320 | 4 × 56 = 224 |
| Cam pedwar | màs yr haearn sy’n ffurfio = (8 ÷ 320) × 224 = 5.6 g |
| Cam un |
|---|
| 2Fe2O3 + 3C → |
| 4Fe + 3CO2 |
| Cam dau |
|---|
| 8 g |
| ? g |
| Cam tri |
|---|
| 2 × 160 = 320 |
| 4 × 56 = 224 |
| Cam pedwar |
|---|
| màs yr haearn sy’n ffurfio = (8 ÷ 320) × 224 = 5.6 g |