Cyfrifiadau pellach [Haen uwch yn unig]Cyfrifo molau

Technegau cyfrifo ar gyfer yr haen uwch i ganfod fformiwlâu empirig a moleciwlaidd sylwedd, masau sylwedd gofynnol mewn adwaith a chyfrifiadau’n ymwneud â molau.

Part ofCemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cyfrifo molau

Mae’r hafaliad hwn yn dangos y berthynas rhwng , nifer y a :

Mae 1 môl o sylwedd yn cynnwys 6.022 × 1023 o atomau neu foleciwlau. Mae 6.022 × 1023 yn rhif cyson, sef cysonyn Avogadro.

Gallwn ni ad-drefnu hafaliad i ganfod y màs os ydyn ni’n gwybod nifer y molau a’r màs molar (y màs fformiwla cymharol mewn gramau). Gallwn ni hefyd ei ad-drefnu i ganfod y màs molar os ydyn ni’n gwybod y màs a nifer y molau.

\(\text{màs} = {\text{nifer y molau}}\times{\text{màs fformiwla cymharol}}\)

Darganfod nifer y molau

Question

Cyfrifa nifer y molau o foleciwlau carbon deuocsid mewn 22 g o CO2.

Darganfod y màs

Question

Cyfrifa fàs 2 mol o garbon deuocsid (CO2).

Darganfod y màs fformiwla cymharol

Question

Mae màs 10 mol o garbon deuocsid yn 440 g. Beth yw màs fformiwla cymharol carbon deuocsid?

Masau sy’n adweithio gan ddefnyddio molau

Galli di gyfrifo màs neu gan ddefnyddio syniad molau, hafaliad cytbwys a gwerthoedd Ar perthnasol.

Enghraifft

Mae asid sylffwrig a sodiwm hydrocsid yn adweithio â’i gilydd i wneud sodiwm sylffad a dŵr:

H2SO4 + 2NaOH → Na2SO4 + 2H2O

Question

Cyfrifa fàs y sodiwm sylffad sy’n ffurfio wrth i 20 g o sodiwm hydrocsid adweithio â gormodedd asid sylffwrig.

  • Ar hydrogen, H = 1
  • Ar ocsigen, O = 16
  • Ar sodiwm, Na = 23
  • Ar sylffwr, S = 32