Hafaliadau a chyfrifiadau cemegolCydbwyso hafaliadau a chyfrifiadau

Rydyn ni'n defnyddio hafaliadau geiriau a symbolau i ddangos gwybodaeth am adweithiau. Mae cadwraeth màs yn digwydd mewn adweithiau cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio mewn adweithiau cemegol. Gan ein bod ni'n gwybod masau cymharol pob math o atom, gallwn ni ragfynegi masau'r cynhyrchion a'r adweithyddion mewn adweithiau cemegol.

Part ofCemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cydbwyso hafaliadau a chyfrifiadau

Mae hafaliadau geiriau’n ddefnyddiol i ddangos pa gemegion sy’n adweithio â’i gilydd (adweithyddion) a pha gemegion sy’n cael eu cynhyrchu (cynhyrchion). Mae hafaliadau symbolau’n caniatáu i gemegwyr gyfrifo’r fydd yn adweithio neu’n cael eu cynhyrchu.

Adwaith copr ac ocsigen – creu hafaliad cytbwys

Mae hafaliadau symbolau cytbwys yn dangos beth sy’n digwydd i’r gwahanol mewn adweithiau. Er enghraifft, mae copr ac ocsigen yn adweithio â’i gilydd i wneud copr(II) ocsid.

Ar gyfer yr adwaith, copr + ocsigen → copr(II) ocsid:

  • copr ac ocsigen yw’r adweithyddion oherwydd maen nhw ar y chwith i’r saeth
  • copr(II) ocsid yw’r cynnyrch oherwydd mae ar y dde i’r saeth

Os ydyn ni’n rhoi’r fformiwlâu cemegol cywir yn lle’r geiriau uchod, bydd yn rhoi hafaliad anghytbwys, fel sydd i’w weld yma.

Cu + O2 → CuO

Dydy’r niferoedd o bob math o atom ar yr ochr chwith ddim yn hafal i’r niferoedd ar yr ochr dde. I wneud pethau’n hafal, mae angen addasu nifer yr unedau o rai o’r sylweddau nes bod niferoedd pob math o atom yn hafal ar y ddwy ochr.

Dyma’r hafaliad symbolau cytbwys.

2Cu + O2 → 2CuO

Nawr, galli di weld bod dau atom copr a dau atom ocsigen bob ochr. Mae hyn yn cyd-fynd â beth sy’n digwydd yn yr adwaith.

Diagram yn dangos sut mae dau atom copr ac un moleciwl ocsigen (dau atom) yn adweithio â'i gilydd i ffurfio dau foleciwl copr ocsid.
Figure caption,
Dau atom copr yn adweithio ag un moleciwl ocsigen (sy’n cynnwys dau atom) i ffurfio dau foleciwl copr(II) ocsid

Symbolau cyflwr

Weithiau, mae’n ddefnyddiol gwybod a yw’r adweithyddion a’r cynhyrchion mewn adwaith cemegol yn solidau, yn nwyon, yn hylifau neu'n ddyfrllyd (hynny yw, wedi’u hydoddi mewn dŵr). Gallwn ni ychwanegu symbolau cyflwr at hafaliad symbolau/ïonig i ddangos hyn.

Symbol cyflwr ac ystyr

SymbolYstyr
(s)Solid
(h)Hylif
(n)Nwy
(dyfr)Dyfrllyd (wedi’i hydoddi mewn dŵr)
Symbol(s)
YstyrSolid
Symbol(h)
YstyrHylif
Symbol(n)
YstyrNwy
Symbol(dyfr)
YstyrDyfrllyd (wedi’i hydoddi mewn dŵr)

Er enghraifft, ar gyfer yr adwaith rhwng sodiwm a dŵr, dyma’r hafaliad symbolau gyda symbolau cyflwr.

2Na(s) + 2H2O(h) → 2NaOH(dyfr) + H2(n)

Rydyn ni’n ysgrifennu’r symbolau cyflwr mewn cromfachau ar ôl y fformiwla gemegol.