Hafaliadau a chyfrifiadau cemegolCadwraeth màs

Rydyn ni'n defnyddio hafaliadau geiriau a symbolau i ddangos gwybodaeth am adweithiau. Mae cadwraeth màs yn digwydd mewn adweithiau cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio mewn adweithiau cemegol. Gan ein bod ni'n gwybod masau cymharol pob math o atom, gallwn ni ragfynegi masau'r cynhyrchion a'r adweithyddion mewn adweithiau cemegol.

Part ofCemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cadwraeth màs

Dydy byth yn cael ei golli na’i ennill mewn adweithiau cemegol. Rydyn ni’n dweud bod cadwraeth màs yn digwydd bob amser. Mewn geiriau eraill, mae cyfanswm màs y ar ddiwedd yr adwaith yn hafal i gyfanswm màs yr ar y dechrau. Mae hyn oherwydd nad oes dim yn cael eu creu na’u dinistrio yn ystod adweithiau cemegol.

Diagram yn dangos 16 atom o elfen X (16 X) yn adweithio ag 8 atom o elfen Y (8 Y) i ffurfio 8 cyfansoddyn o elfennau X ac Y (8 X2Y).

Mae egwyddor cadwraeth màs yn golygu y galli di gyfrifo màs un sylwedd mewn adwaith os wyt ti’n gwybod masau’r sylweddau eraill.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 6, Calsiwm carbonad wedi'i wneud o 28 gram o galsiwm ocsid a 22 gram o garbon deuocsid., Mae calsiwm carbonad wedi’i wneud o 28 gram o galsiwm ocsid a 22 gram o garbon deuocsid

Yn ymarferol, dydy hi ddim bob amser yn bosibl cael yr holl gynnyrch sydd wedi’i gyfrifo o adwaith. Mae hyn oherwydd:

  • efallai dydy ddim wedi cael eu cwblhau
  • efallai bydd rhywfaint o’r cynnyrch yn cael ei golli wrth ei dynnu o gymysgedd yr adwaith
  • efallai y bydd rhywfaint o’r adweithyddion yn adweithio mewn ffordd annisgwyl