Màs atomig cymharol
Mae màs atomig cymharol elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yn dangos ei màsFaint o fater sydd mewn gwrthrych. Rydyn ni’n mesur màs mewn gramau (g). o gymharu â màs atomau o elfennau eraill. Mae màs moleciwlaidd cymharol carbon yn 12, ac mae màs moleciwlaidd cymharol magnesiwm yn 24. Mae hyn yn golygu bod màs atom magnesiwm ddwywaith cymaint â màs atom carbon.
Màs fformiwla cymharol
Gallwn ni ddefnyddio masau atomig cymharol i ganfod màs fformiwla cymharolRydyn ni’n cyfrifo màs fformiwla cymharol (Mr) cyfansoddyn drwy adio masau atomig cymharol (Ar) yr atomau sy’n bresennol mewn cyfansoddyn. cyfansoddyn.
I ganfod màs fformiwla cymharol (Mr) cyfansoddyn, mae angen adio gwerthoedd màs atomig cymharol (gwerthoedd Ar) pob atom yn y fformiwla.
Question
Cyfrifa Mr carbon monocsid, CO.
Ar carbon, C = 12, ac Ar ocsigen, O = 16.
Mr carbon monocsid, CO = 12 + 16 = 28.
Question
Cyfrifa Mr sodiwm ocsid, Na2O.
Ar sodiwm, Na = 23, ac Ar ocsigen, O = 16.
Mr sodiwm ocsid, Na2O = (23 x 2) + 16 = 62.
(Noder, ffordd arall o ddangos y gwaith cyfrifo yw 23 + 23 + 16)
Mae màs fformiwla cymharol sylwedd, wedi’i ddangos mewn gramau, yn un môl o’r sylwedd hwnnw. Felly mae màs un môl o garbon monocsid yn 28 g, ac mae màs un môl o sodiwm ocsid yn 62 g.
Cyfrifiadau màs fformiwla cymharol
Mae’r tabl yn dangos rhai enghreifftiau eraill o gyfrifiadau màs fformiwla cymharol, gan ddefnyddio’r gwerthoedd màs atomig cymharol sydd wedi’u rhestru oddi tano.
| Cyfansoddyn | Fformiwla | Cyfrifiad | Màs fformiwla cymharol |
| Dŵr | H2O | 1 + 1 + 16 = | 18 |
| Sodiwm hydrocsid | NaOH | 23 + 16 + 1 = | 40 |
| Magnesiwm hydrocsid | Mg(OH)2 | 24 + 16 + 16 + 1 + 1 = (cofia fod dau o bob atom y tu mewn i’r cromfachau) | 58 |
| Cyfansoddyn | Dŵr |
|---|---|
| Fformiwla | H2O |
| Cyfrifiad | 1 + 1 + 16 = |
| Màs fformiwla cymharol | 18 |
| Cyfansoddyn | Sodiwm hydrocsid |
|---|---|
| Fformiwla | NaOH |
| Cyfrifiad | 23 + 16 + 1 = |
| Màs fformiwla cymharol | 40 |
| Cyfansoddyn | Magnesiwm hydrocsid |
|---|---|
| Fformiwla | Mg(OH)2 |
| Cyfrifiad | 24 + 16 + 16 + 1 + 1 = (cofia fod dau o bob atom y tu mewn i’r cromfachau) |
| Màs fformiwla cymharol | 58 |
- Ar hydrogen, H = 1
- Ar ocsigen, O = 16
- Ar sodiwm, Na = 23
- Ar magnesiwm, Mg = 24